Diharebion 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Cyngor yn erbyn dilyn puttain.

1Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fyng-ŵybodaeth,

2Fel y gellech ystyrio cynghorau, a’th wefusau gadw gŵybodaeth.

3Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant y dil mêl, ai gênau yn llyfnach nag olew.

4Ond ei diwedd hi fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf dau-finiog.

5Ei thraed hi a ddescynnant i angeu, ai cherddediad a sang uffern.

6Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symmud ei chamrau hi heb ŵybod i ti.

7Yr awr hon yntef blant gwrandewch arnaf fi, ac nac ymadewch â geiriau fyng-enau.

8Cadw dy ffordd ym mhell oddi wrthi hi, ac na nessa at ddrws ei thŷ hi,

9Rhag i ti roddi dy brydferthwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creûlon.

10Rhag llenwi’r estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn-nhŷ dieithr.

11Ac o’r diwedd i ti duchan, wedi i’th gnawd a’th gorph gurio,

12A dywedyd, pa fodd y caseais i addysc? pa ffodd y dirmygodd fyng-halon gospedigaeth?

13Ac ni wrandewais ar lef fy athrawon, ac ni ostyngais fyng-hlust i’m discawdwŷr.

14Bu agos i bôb drwg a dyfot arnafi, yng-hanol y gynnulleidfa, ar dyrfa.

15Yf ddwfr o’th bydew dy hun, ac o’r ffrydau a fyddant yn rhedeg allan o’th ffynnon dy hun.

16Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydau dwfr yn yr heolydd.

17Ond byddant yn eiddo ti dy hun yn unic, ac nid yn eiddo dieithriaid gyd â thi.

18Bydded dy ffynnon yn fendigedic: ac ymlawenhâ gyd a gwraig dy ieuengctid.

19[Bydded fel] ewig gariadus, ac fel iwrch hawddgar i ti: gâd iw bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn oestadol.

20Pa ham fy mab yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fonwes yr hon nid yw eiddot ti?

21Canys ffyrdd dŷn ydynt yng-olwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.

22Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a rwymir â rhaffau ei bechod ei hun.

23Efe fydd farw o eisieu addysc, ac rhag maint ei ffolineb yr aiff ar gyfeiliorn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help