1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrth Cyrus ei eneiniog, yr hwn yr ymaflais i yn ei ddehau-law, gan danu cenhedloedd oi flaen ef: fel y ddattodwn lwyni brenhinoedd, chan agoryd dôrau, a phyrth oi flaen ef fel na’s caeid,
2Mi âf oi flaen ef, ac a inionaf yr amgylchffyrdd, y dorau prês a dorraf, a’r barrau heirn a ddrylliaf.
3Ac a roddaf it dryssorau cuddiedic, a chuddfeudd dirgel, fel y gwypech mai myfi’r Arglwydd Dduw Israel alwodd erbyn dy enw.
4Er mwyn Iacob fyng-wâs, ac Israel fy etholedic y gelwais arnat erbyn dy enw, ac i’th gyfenwais pan ni’m hadwaenit.
5Myfi yr Arglwydd, ac nid neb amgen, nid Duw onid myfi: darperais di pan ni’m hadwaenit.
6Fel y gwyddent o godiad haul, ac o’r gorllewyn, nad dim onid myfi, myfi Arglwydd, ac nid neb amgen:
7Yn llunnio goleuni, ac yn creu tywyllwch yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi’r Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll.
8Defnynnwch y nefoedd oddi vchod, a difered yr wybrennau gyfiawnder, ymagored y ddaiar, ffrwythed hefyd iechydwriaeth, a chyfiawnder, gwnaed gyd-tarddu, myfi’r Arglwydd ai creais.
9Gwae a ymrysono ai luni-wr, priddell â phriddellau’r ddaiar, a ddywed y clai wrth ei luni-wr, beth a wnei? neu mae dy waith heb ddwylo iddo?
10Gwae a ddywedo wrth dâd, beth a genhedli? neu wrth wraig, beth a escori?
11Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Sanct Israel, ai luni-wr, gofynnwch i mi arwyddion am fy meibion, a gorchymynnwch fi am waith fy nwylo.
12Myfi a wneuthum y ddaiar, ac a greais ddŷn arni, fy nwylo mau fi a estynnasant y nefoedd, a rhoddais orchymynnion am eu holl luoedd.
13Myfi ai cyfodais ef mewn cyfiawnder, ai holl ffyrdd a gyfarwyddaf, efe a adailada fy ninas, efe a ollwng fyng-harcharorion heb werth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd.
14Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, llafur yr Aipht, a marsiandiaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant attat ti, eiddot ti fyddant, ar dy ôl y deuant, mewn huâlau yr ânt, ac yr ymgrymmant i ti, attat y gweddiant ynot ti yn vnic Duw, ac nid vn Duw arall.
15Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, Duw Israel achubudd.
16Cywilyddirwyd a gwaradwyddwyd hwynt oll, seiri delwau a gyd-aethant mewn gwradwydd.
17Israel a achubir yn yr Arglwydd iechydwriaeth dragywyddol: ni’ch cywilyddir, ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd creawdudd y nefoedd, efe y Duw a luniodd y ddaiar, ac ai gwnaeth: efe ai siccrhaodd hi, ni chreawdd hi yn wag, eithr iw phresswylio y lluniodd hi: myfi Arglwydd, ac nid neb amgen.
19Ni leferais mewn dirgelwch, mewn mann tywyll o’r ddaiar; ni ddywedais wrth hâd Iacob gwegi, ceisiwch fi: myfi Arglwydd yn llefaru cyfiawnder, yn mynegu iniondeb.
20Ymgesclwch, a deuwch, cyd-nessewch gweddillion y cenhedloedd, ni ŵydde y rhai a dderchâfasant goed eu cerf-ddelw, ac a weddient dduw nid alle achub.
21Mynêgwch, a nessewch cyd-ymgynghorer hefyd, pwy a draethodd hyn er gynt? ai mynegodd y pryd hynny? onid myfi’r Arglwydd? canys nid oes Duw arall onid myfi: yn Dduw cyfiawn, ac yn achubudd nid onid myfi.
22Troiwch attafi holl gyrrau’r ddaiar, fel i’ch achuber: canys myfi Dduw, ac nid neb arall.
23I’m fy hun y tyngais, aeth gair o’m genau cyfiawnder, ac ni ddychwel, mai i mi y plŷga pob glin, y twng pob tafod.
24Yn vnic yn yr Arglwydd (medd efe) i mi gyfiawnder, a nerth, atto ef y deuir, a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.
25Yn yr Arglwydd y cyfiawnheuir, ac yr ymogonedda holl hâd Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.