1Dymma y geiriau y rhai a ddywedodd Moses wrth holl Israel, ar tu hwnt i’r Iorddonen yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn a’r môr côch: rhwng Pharan a Thophel, a Laban, a Haseroth, a Dizahab.
2[Taith] vn diwrnod ar ddec o Horeb, ffordd i’r mynydd Seir, hyd Cadesbarnea.
3A darfu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr vnfed mîs ar ddec, ar y cyntaf o’r mis i Moses lefaru wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd iddo wrthynt.
4Wedi iddo ladd Num.21.26.Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrai.
5Tu hwnt i’r Iorddonen yng-wlâd Moab y dechreuodd Moses egluro y gyfraith hon gan-ddywedyd:
6Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthum ni yn Horeb, gan ddywedyd: digon i chwi drigo yn y mynydd hwn,
7Dychwelwch, a chychwnnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac iw holl gyfagos i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r gwastadedd, ac i’r dehau, ac i borthladd y môr, i dîr y Canaaneaid, ac i Lybanus, hyd yr afon fawr afon Euphrates.
8Wele rhoddais y wlâd o’ch blaen chwi: ewch i mewn, Genes.15.18.|GEN 15:18. Genes.17.7.a gorescynnwch y wlâd yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi: i Abraham, ac i Isaac, ac i Iacob ar rhoddi iddynt, ac iw hâd ar eu hôl hwynt.
9A mi a ymadroddais wrthych Exod.18.19.yr amser hwnnw gan ddywedyd: ni allaf fy hun eich cynnal chwi.
10Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi: ac wele chwi heddyw fel sêr y nefoedd o luosogrwydd.
11Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynnyddo yn fil lluosogach nac ydych, ac a’ch bendithio fel y llefarodd efe wrthych.
12Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi?
13Moeswch iwch wŷr doethion, a deallus, a rhai cyfarwydd trwy eich llwythau, fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.
14Yna’r attebasoch fi, ac y dywedasoch, da yw gwneuthur y peth yr hwn a ddywedaist.
15Cymmerais gan hynny bennau eich llwythaû chwi, gwŷr doethion, a rhai cyfarwydd, ac ai rhoddais hwynt yn bennau arnoch, yn gapteniaid ar filoedd, ac yn gapteniaid ar gantoedd, ac yn gapteniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteniaid ar ddegau, ac yn swyddogion ar eich llwythau chwi.
16A’r amser hwnnw y gorchymynnais i’ch barnwyr chwi gan ddywedyd: gwrandewch rhwng eich brodyr, a Ioan.7.24.bernwch gyfiawnder rhwng gŵr ai frawd, ac ai estron hefyd.
17Na chydnabyddwch wynebau mewn barn, Lefit.19.15. Deut.16 19|DEU 16:19. 1.Sam.17.7.|1SA 17:7. Diahar.24.23|PRO 24:23. Iam.2.2.gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ac ar y mwyaf: nac ofnwch rhac neb, o blegit y farn sydd eiddo Duw: a’r pêth yr hwn a fydd rhy galed i chwi a ddygwch attafi, a mi ai gwrandawaf.
18Gorchymynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau y rhai eu gwneuthur.
19Yna y mudasom o Horeb, ac a gerddasom yr holl anialwch mawr, ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch fforddfynydd yr Amoriaid, fel y gorchymynnase yr Arglwydd ein Duw i ni, ac a ddaethom hyd Cadesbarnea.
20A dywedais wrthych, daethoch hyd fynydd yr Amoriaid yr hwn y mae’r Arglwydd ein Duw ar roddi i ni.
21Wele’r Arglwydd dy Dduw a roddes y wlâd o’th flaen, dos i fynu gorescyn, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthit, nac ofna, ac na lwfrhâ.
22Yna chwi oll a ddaethoch allaf, ac Num.13.1.a ddywedasoch, anfonwn wŷr o’n blaen ni, fel y chwiliant hwy y wlâd i ni, ac yr adroddant beth i ni am y ffordd yr hon yr awn i fynu rhyd-ddi, ac am y dinasoedd y rhai y deuwn i mewn iddynt.
23A’r peth oedd dda yn fyng-olwg, cymmerais gan hynny ddeuddeng-wr o honoch, vn gŵr o llwyth.
24 Num.13.24. Felly y troesant ac yr aethant i fynu i’r mynydd, ac y daethant hyd ddyffryn Escol, ac ai chwiliasant ef.
25Ac a gymmerasant o ffrwyth y tîr yn eu llaw, ac ai dugasant i wared attom ni, ac a ddugasant air i ni trachefn, ac a ddywedasant da’r wlâd yr hon y mae’r Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
26Er hynny ni fynnech fyned i fynu: ond gair yr Arglwydd eich Duw a anufyddhausoch chwi.
27Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, am gasau o’r Arglwydd nyni y dug efe ni allā o dir yr Aipht i’n rhoddi yn llaw’r Amoriaid, i’n difetha.
28I ba le’r awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni gan ddywedyd: pobl fwy, a hwy na nyni, dinasoedd mawrion, a chaeroc hyd y nefoedd, a Num.13.29.meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
29Yna y dywedais wrthych, nac arswydwch, ac nac ofnwch rhacddynt hwy.
30Yr Arglwydd eich Duw’r hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd trosoch yn ôl oll a wnaeth i chwi yn yr Aipht o flaen eich llygaid.
31Ac yn yr anialwch fel y gwelaist i’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab ei hun, yn yr holl ffordd yr hon a gerddasoch, nes eich dyfod hyd y man ymma.
32Etto er y chwedl hwn, ni chredech chwi yn yr Arglwydd eich Duw.
33 Exod.13.21. Yr hwn a oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hŷd y ffordd i chwilio iwch le i werssyllu o honoch: y nôs mewn tân i beri i chwi ganfod ar hyd y ffordd yr hon yr aech arni: a’r dydd mewn cwmwl.
34A chlybu’r Arglwydd lais eich geiriau, ac a ddigiodd, ac a dyngodd gan ddywedyd:
35Os Num.14.13.vn o’r dynion hyn, y genhedlaeth ddrŵg hon, a wêl y wlâd dda’r hon y tyngais, ar ei rhoddi i’ch tadau chwi
36O ddieithr Caleb mab Iephun, efe ai gwêl hi, Iosua.14.6.ac iddo ef y rhoddaf y wlâd yr hon y sangodd efe ynddi, ac iw feibion ef, o achos cyflawni o honaw ar ôl yr Arglwydd.
37 Num.20.12. Num 27.14.|NUM 27:14. Deut.3.26. Deut.4.21. Deut.34.4. Wrthif finne hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegit chwi gan ddywedyd: tithe hefyd ni chei fyned i mewn yno.
38Iosuah mab Nun yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a aiff i mewn yno: cadarnhâ di ef, canys efe ai rhan hi’ n etifeddiaeth i Israel.
39 Num.14.31. Eich plant hefyd y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, a’ch meibion chwi y rhai nid adwaenant heddyw dda, na drwg: y rhai hyn a ânt i mewn yno, ac i’r rhai hynny y rhoddaf hi, a hwynt ai gorescynnant hi.
40Troiwch chwithau rhagoch, a chychwnnwch i’r anialwch ar hŷd ffordd y môr côch.
41Yna yr attebasoch, a dywedasoch wrthif, pechasom yn erbyn yr Arglwydd, nyni a awn i fynu, ac a ymladdwn ar ôl yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni: a gwiscasoch bob vn ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i’r mynydd.
42A dywedodd yr Arglwydd wrthif: diwet wrthynt nac ewch i fynu, ac na ryfelwch o blegit nad ydwyf yn eich mysc chwi, rhac eich cwympo o flaen eich gelynnion.
43Felly y dywedais wrthych, ond ni wrandawsoch eithr anufyddhausoch air yr Arglwydd, rhyfygasoch hefyd ac aethoch i fynu i’r mynydd.
44Yna y daeth allan yr Amoriaid y rhai yn trigo yn y mynydd hwnnw i’ch cyfarfod chwi ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi o Seir hyd Horma.
45Yna y dychwelasoch ac yr ŵylasoch ger bron yr Arglwydd, ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.
46Ac arhosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arhosasech
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.