1Doethineb a gemnyl ei henaid, ac a orfoledda ym mysc ei phobl.
2Hi a egur ei safn yng-hynnulleidfa y Goruchaf, ac a orfoledda ger bron ei allu ef
3Mi a ddeuthym o enau y Goruchaf, ac a orchuddiais y ddaiar fel niwl.
4Mi a bresswylais yn y goruchelder, a’m gorseddfaincg i sydd mewn colofn o gwmwl.
5Myfi a amgylchais gylch y nesoedd fy hunan, ac a rodiais yng-waelod y dyfnder.
6Cefais feddiant o donnau y môr, ac o’r holl dîr, ac o bob pobl a chenhedlaeth.
7A chyd a’r rhai hyn oll y ceisiais i orphywysdra, fel y cyfannedwn yn etifeddiaeth rhyw vn.
8Yna i’m gorchymynnodd creawdudd pob peth, a’r hwn a’m creawdd inne a wnaeth i’m pabell i orphywyso, ac a ddywedodd:
9Presswylia yn Iacob, a chymmer etifeddiaeth yn Ierusalem.
10 Dihar.8.23. Efe a’m creawdd i o’r dechreuad cyn y byd, ac ni phallaf fi byth, mi a wasanaethais ger ei fron ef Exod.31.3.yn y babell sanctaidd.
11Ac felly im siccrhawyd i yn Sion, gwnaeth efe hefyd i mi orphywyso yn y ddinas sanctaidd, ac yn Ierusalem y mae fyng-allu i.
12Ac mi a wreiddiais ym mysc pobl anrhydeddus yn rhan yr Arglwydd ai etifeddiaeth.
13Fel cedryn Libanus y derchafwyd fi, ac fel cupreswydden ym mynyddoedd Hermon.
14Fel palmwydden Engadi y derchafwyd fi, ac fel planhigion rôs yn Iericho.
15Fel oliwydden hardd mewn maes têg, fel planwydden wrth ddyfroedd i’m derchafwyd.
16Fel Cinamwn, ac fel swpp o bêr-aroglau, ac megis myr dewisol y rhoddais fy mher arogl.
17Fel galbanum, ac Onyx, ac siorax, ac fel tarth thus mewn papell.
18Mi a estynnais fyng-hanghennau fel Tarebinchus, a’m canghennau ydynt ogoneddus a grawslawn.
19 Io.15.1. Fel gwinwydden y tarddodd pêr arogl o honofi, a ffcwyth gogoniant a chyfoeth yw fy mlodau mau fi.
20Mam cariad da, ac ofn, a gwybodaeth, a gobaith sanctaidd ydwyfi:
21Yr ydwyfi yn rhoddi yn dragywyddol i’m meibion y rhai a ddywedo efe.
22Deuwch attafi y rhai a ydych yn fy chwenychu i, a llanwer chwi âm ffrwythau i.
23Canys Psal.19.10.melusach yw fyng-hoffadwriaeth na’r mêl, a’m etifeddiaeth na’r dil mêl.
24Bydd ar y rhai am bwytânt i newyn etto, ac ar y rhai am hyfant i y bydd sychedd etto.
25Ni wradwyddir byth yr hwn a vfyddhao i mi, ac ni phecha y rhai a weithiant trwofi.
26Llyfr cyfammod y goruchaf Dduw yw hyn oll.
27[Sef] Exod.20.1|EXO 20:1 & 24.3.|EXO 24:3. Deut.4.1. & 29.9.y gyfraith yr hon a orchymynnodd Moses i ni yn etifeddiaeth yng-hynnulleidfa Iacob, na phellwch fod yn gryfion yn yr Arglwydd, fel y cadarnhao efe chwi, glynwch wrtho ef: yr holl alluog Arglwydd sydd Dduw yn vnic, ac nid oes iachawdur ond efe.
28Yr hwn ai ddoethineb sydd yn llenwi pob peth fel Gen.2.11.Pison, ac fel Tigrys yn nyddiau y newydd.
29Yr hwn sydd yn llenwi deall fel Euphrates, ac fel yr Ios.3.15Iorddonen yn amser cynhaiaf.
30Yr hwn sydd yn dangos addysc gwybodaeth fel goleuni, ac fel Gêon yn nyddiau cynhaiaf gwîn.
31Ni orphennodd y cyntaf ei hadnabod hi: felly nid ôlrheiniodd y diweddaf hi allan.
32O blegit y mae ei meddylfryd hi yn helaethach na’r môr, ai chyngor na’r dyfnder mawr.
33Yr ydwyf fi doethineb, fel ffôs yn dyfod o afon:
34Ac fel aber yr euthym i baradwys.
35Mi a ddywedais y dwfrhawn fyng-ardd o’r oref, ac y mwydwn fyng-hyfiawn ireidddra.
36Ac wele fe a aeth fy ffôs yn afon, a’m hafon i yn fôr.
37Am fy mod i yn egluro addysc fel y cyfddydd, ac yn ei dangos hi ym mhell.
38O herwydd yr ydwyf fi yn tywallt athrawiaeth fel prophwydoliaeth, ac mi ai gadawaf hi i oesoedd tragywyddol.
39Gwelwch Pen.33.16.nad trosof fy hunan y cymmerais i boen, eithr tros bawb ai ceisiant hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.