Daniel 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Daniel yn gweled pedwar anifail, 14 Ac vn dyn, 17 Y rhai a arwyddocânt bedair brenhiniaeth, 27 A thragywyddawl lywodraeth Grist.

1Yn y flwyddyn gyntaf i Balthasar frenin Babilon y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei benn ar ei wely: yna efe a scrifennodd y breuddywyd, a draethodd swm y geiriau.

2Llefarodd Daniel, a dywedodd, edrych yr oeddwn yn fyng-weledigaeth gyd a’r nôs, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymrwygo yn y môr mawr.

3A phedwar bwyst-fil mawr a ddaethant i fynu o’r môr yn amrywio y naill oddi wrth y llall.

4Y cyntaf fel llew, ac iddo adenydd eryr, edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, ai gyfodi oddi wrth y ddaiar, a sefyll o honaw ar ei draed fel dŷn, a rhoddi iddo galon dyn.

5Ac wele’r ail anifail arall, yn debyg i arth, ac ar y naill ystlys y safe, ac yr oedd tair assen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd, ac fel hyn y dywedent wrtho ef: cyfot, bwytta gig lawer.

6Wedi hyn yr edrychais, ac wele vn arall megis llewpard, ac iddo bedair aden aderyn ar ei gefn, a phedwar pen bwyst-fil, a rhoddwyd iddo lywodraeth.

7Wedi hyn yr oeddwn yn edrych mewn gweledigaethau nôs, ac wele y pedwerydd bwyst-fil yn ofnadwy, ac yn aruthrol, ac yn gryf ragorol, ac iddo ddannedd mawrion o haiarn: yr oedd yn bwytta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill tann ei draed: hefyd efe yn amryw oddi wrth y bwyst-filod oll, y rhai oi flaen ef, ac iddo ef ddêc o gyrn.

8Yr oeddwn yn ystyried y cyrn, ac wele cyfododd corn bychan arall rhyngddynt hwy, a thynnwyd tri o’r cyrn cyntaf oi flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

9Edrychais hyd oni chyfodwyd gorseddfeudd, yna yr esteddodd hen ddihenydd, ei wisc cynn wynned a’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pûr: ei orseddfa yn fflammau tân, ai olwynion yn dân poeth.

10Afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef, mil o filoedd ai gwasanaethent, a myrdd myrddion a safent ger ei fron ef: eisteddwyd y farn, ac agorwyd y llyfrau.

11Edrychais yna o llais y geiriau mawrion y rhai a draethodd y corn, edrychais hyd oni laddwyd y bwyst-fil, a difetha ei gorph ef, ai roddi iw losci yn tân.

12A llywodraeth y rhan arall o’r bwyst-filod a dducpwyd, a rhoddwyd iddynt enioes tros yspaid, ac amser.

13Oeddwn yn edrych mewn gweledigaethau nôs, ac wele megis mab dŷn oedd yn dyfod gyd â chwmmylau y nefoedd, ac at hên ddihenydd y daeth efe, ac o flaen hwnnw y dugwyd ef.

14Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y gwasanaethe yr holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd ef: ei lywodraeth lywodraeth dragywyddol, yr hon ni ddygir, ai frenhiniaeth ni lygrir:

15Drylliwyd fy yspryd mau fi Daniel yng-hanol fyng-horph, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynnasant.

16Deuthym at vn o’r rhai a safent a cheisiais ganddo siccrwydd am hyn oll: ac efe a ddywedodd i mi, ac a ddyscodd i mi ddeongliad y geiriau.

17Y bwyst-filod mawrion hyn bedwar brenin a gyfodant o’r ddaiar.

18Ac a dderbynniant frenhiniaeth y sainct gorucha, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, ac hyd byth bythoedd.

19Yna’r ewyllysiais siccrwydd am y pedwerydd bwyst-fil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy odieth, ai ddannedd o haiarn, ai ewinedd o brês, yn bwytta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill ai draed,

20Ac am y dêc corn y rhai ar ei benn ef, a’r llall yr hwn a gyfodase, ac y syrthiase tri oi flaen, sef y corn yr hwn llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach n’a i gyfeillion.

21Edrychais, a’r corn hwn oedd yn gwneuthur rhyfel a’r sainct, ac yn drêch nâ hwynt,

22Hyd oni ddaeth yr hen ddihenydd, a rhoddi barn i’r sainct goruchaf, a dyfod o’r amser a meddiannu o’r sainct y frenhiniaeth.

23Fel hyn y dywedodd efe: y pedwerydd bwyst-fil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaiar, yr hon a amrywia oddi wrth yr holl freniniaethau: hefyd hi a ddifa yr holl ddaiar, ac ai sathr hi, ac ai dryllia.

24A’r dêc corn o’r frenhiniaeth honno ddêc brenin a gyfodant, ac arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

25Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa sainct y Goruchaf: efe hefyd a amcâna newidio amseroedd, a chyfraith, a hwynt a roddir yn ei law ef Math.24.22.hyd amser, ac amseroedd, a hanner amser.

26Yna yr eisteddir farn, ai awdurdod a ddygant, gan anrheithio a difetha hyd y diwedd.

27Yna brenhiniaeth, a llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth tann yr holl nefoedd a roddir i bobl sainct y Goruchaf: ei frenhiniaeth brenhiniaeth dragywyddol, a phôb llywodraeth a wasanaethant, ac a vfyddhânt iddo.

28Hyd ymma diwedd y gair: fy meddyliau i Daniel a’m dychrynnodd yn ddirfawr, a’m lliw a newidiodd ynof: a chedwais y gair yn fyng-halon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help