1A dywedodd yr Arglwydd wrthif: Ezec.14.14.pe safe Moses a Samuel ger fy mron, etto ni bydd fy serch ar y bobl ymma: gollwng fel yr elont o’m golwg.
2Ac os dywedant wrthit, i ba le yr awn? tithe a ddywedi wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, * y sawl i angeu, i angeu; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i newyn, i newyn: a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.
3Mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth medd yr Arglwydd, y cleddyf i ladd; a’r cŵn i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaiar i yssu, ac i ddifa.
4Ac ai rhoddaf hwynt yn gyrwydraid i holl deyrnasoedd y ddaiar, 2.Bren.21.9.herwydd Manasses mab Hezecia brenin Iuda, am yr hyn a wnaeth efe yn Ierusalem.
5Pwy gan hynny a drugarhâ wrthit ti ô Ierusalem? a phwy a dosturia wrthit ti? a phwy a aiff i eiriol am heddch it?
6Ti a’m gadewaist medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw arnat ti i’th ddifetha, myfi a flinais yn edifarhau.
7Ac mi ai chwalaf hwynt a gwintill ym mhyrth y wlad: yspeiliais, a difethais fy mhobl, etto ni throesant oddi wrth eu ffyrdd.
8Eu gweddwon a amlhausant trwost, tu hwnt i dyfod y môr: dugum arnynt anrheith-wr ganol dydd, ac yn erbyn cynnulleidfa eu gwŷr ieuaingc: perais syrthio yn ddisymmwth arni hi, ar y ddinas, a mewn dychryn.
9Yr hon a blantodd saith a lescaodd: ei henaid hi a llysmeiriodd, ei haul a fachludodd, tra oedd hi yn ddydd, hi a gywilyddiwyd, ac a wradwyddwyd: rhoddaf eu gweddillion i’r cleddyf ger bron eu gelynnion medd yr Arglwydd.
10Gwae fi fy mam, ymddwyn o honot fi, yn ŵr ymrysongar, ac yn ŵr cynhennus a’r holl wlad: ni logais, ac ni logwyd i mi, pawb sy sy yn fy melldigo i.
11Yr Arglwydd a ddywedodd, oni dy weddill di mewn daioni? yn oni achubaf flaen y gelyn trosot ti yn amser adfyd, ac yn amser cystudd?
12A dyrr haiarn yr haiarn, a’r pres o’r gogledd?
13Dy gyfoeth a’th dryssorau a roddaf yn yspail nid am werth, ond o blegit dy holl bechodau, y rhai drwy dy holl derfynau.
14Gyrraf hefyd gyd a’th elynnion i dîr nid adwaenost: canys tân a ynynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysc.
15Ti a wyddost Arglwydd, coffa am danaf, ac ymwel â mi, a dial trosof ar fy erlidwŷr, na ddwg fi i’th hîr ddigofaint, gwybydd ddwyn o honof wradwydd er dy fwyn di.
16Dy eiriau a gaed, a mi ai bwyteais hwynt, ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd, ac yn hyfrydwch fyng-halon: canys dy enw di a alwyd arnafi ô Arglwydd Dduw y lluoedd.
17Nid eisteddais yng-hymanfa y gwatwarwŷr, ac ymhyfrydais: eisteddais fy hunan rhac dy law di, canys ti a’m llenwaist i o lîd.
18Pa ham y mae fy nolur i yn dragywyddol? a’m plâ yn ddiobaith, fel nad ellir ei iachau? a fyddi di i mi megis celwyddoc, fel dwfr anwadal?
19Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, os dychweli, yna i’th ddygaf eilwaith fel y sefech ger fy mron, os tynni ymmaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fyng-enau mau fi: dychwelant hwy attat ti, ond na ddychwel di attynt hwy.
20Rhoddaf di hefyd i’r bobl ymma yn fagwyr efydd gadarn, a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant, canys yr ydwyfi gyd â thi i’th achub, ac i’th wared medd yr Arglwydd.
21Mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus: ac a’th ryddhaf di o law y cedyrn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.