1Ac Elihu a leforodd, ac a ddywedodd:
2[Ha wŷr] doethion gwrandewch fy ymadroddion: a y rhai ydych yn gŵybod, clust-ymwrandewch.
3Canys y glust a farna ymadroddion: fel yr archwaetha y genau fwyd.
4Dewiswn i ni ein hunain iniondeb, fel y gŵybyddom rhyngom pa beth sydd ddâ.
5Canys dywedodd Iob, cyfiawn ydwyf: a Duw a symmudodd fyng-hyfiawnder.
6A ddywedaf i gelwydd yn erbyn fy matter fy hun? trom dy saeth heb gamwedd ynof.
7Pa ŵr fel Iob, a ŷf watworgerdd fel dyfroedd?
8Ac a rodiodd yng-hymydeithas gyd â gweithred-wŷr anwiredd: ac i fyned gyd â dynion annuwiol.
9Canys dywedodd, ni fuddia i ŵr, ewyllysio o honaw ef gyd â Duw.
10Am hynny chwychwi wyr calonnoc, gwrandewch arnaf, pell fyddo Duw oddi wrth annuwioldeb, a’r Holl-alluoc oddi wrth anwiredd.
11Canys efe a dâl i ddyn ei waith: ac efe a wnaiff i ŵr gael yn ôl ei lwybr ei hun.
12Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol: ac na ŵyra’r Holl-alluoc farn.
13Pwy heb ei law ef sydd yn llywodraethu y ddaiar iddo ef? a phwy a osododd yr holl fyd?
14Pe gosodase ei feddwl yn erbyn cascle efe atto ei hun ei yspryd, ai chwythad ef,
15[Yna] pôb cnawd a gyd-drenge: a dyn a ddychwele i’r prîdd.
16Od ddeall gwrando hyn: clust-ymwrando a llef fy ymadroddion.
17A gaiff yr hwn sydd yn cassaû barn lywodraethu? ac a elwi di yr hwn sydd gyflawn odieth yn annuwiol?
18A ddywedir wrth frenin, ô drygionus: ô annuwiol, wrth dywysogion?
19Yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, lle nid adwaenir y goludoc o flaen y tlawd: canys gwaith ei ddeheu-law ef ydyw pawb.
20Hwy a fyddant meirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt heibio: a’r cadarn a symmudir heb law.
21Canys ei lygaid ef ar ffyrdd dŷn: ac efe a wêl ei holl gamrau ef.
22Nid dywyllwch, ac nid gyscod angeu: lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd ymguddio.
23Canys ni esyd ar ddyn y chwaneg fel y gallo efe fyned i’r gyfraith â Duw.
24Efe a ddryllia rai cedyrn yn anifeiriol: ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.
25Am hynny efe a gyhoedda eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.
26Efe ai teru hwynt megis rhai annuwiol yn amlwg.
27Am iddynt hwy gilio oddi ar eiôl ef: ac na ddeallent ei holl ffyrdd ef.
28Gan ddwyn gwaedd y tlawd arnynt hwy: canys efe a wrendu waedd y trueniaid.
29Canys pan esmwythâo efe, pwy a anesmwythâ? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno ef: sef ar genhedlaeth, neu ar ddŷn vnic.
30Fel na theyrnase dŷn ffuantus,na rwyder y bobl.
31Ond wrth Dduw’r hwn a ddywedodd, mi a faddeuais, nid anrheithiaf,
32Heblaw a welaf dysc di fi: o gwnenthum anwiredd, ni wnafi mwy.
33A ydyw o honot ti? efe a dâl hynny os diystyri di os dewisi di hynny, ond ni i: dywet yn awr yr hyn a ŵyddost.
34Gwŷr call a ddywedant gyd â mi: a’r gŵr doeth yr hwn a’m clywe.
35Iob a ddywedodd yn annoeth: ai eiriau nid ydynt mewn deall.
36Fy nhâd profer Iob hyd y diwedd: am attebion tros ddynion anwir.
37Canys efe a chwanegodd scelerder at ei bechod, efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni: ac a amlhâodd ei eiriau yn erbyn Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.