Michaes 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.1 Dyfyn ar y bobl i atteb i gwyn yr Arglwydd. 3 Daoni’r Arglwydd iw bobl. 6 Y gwasanaeth y mae Duw yn ei ofyn. 10 Anwiredd y bobl. 13 Ai cosp.

1Gwrandewch atolwg y peth a ddywed yr Arglwydd: cyfot, ymddadle ar y mynyddoedd, a chlywed y brynnau dy lais.

2Gwrandewch y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaiar gŵyn yr Arglwydd, canys cŵyn rhwng yr Arglwydd ai bobl, ac efe a ymddadle ag Israel.

3Fy mhobl beth a wneuthym i’th erbyn? ar ba beth i’th flinais? atteb fi.

4Canys mi a’th ddygais o dîr yr Aipht, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

5Fy mhobl cofia-attolwg beth a ddychymmygodd Balac brenin Moab, a pha atteb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal, fel y galloth ŵybod cyfiawnder yr Arglwydd.

6A pha beth y deuaf ger bron yr Arglwydd, ac yr ymgrymmaf i’r vchel Dduw? a ddeuafi ger ei fron ef â phoeth offrymmau, ac â dyniewid?

7A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o fyheryn? neu a myrddiwn o ffrydau olew? a roddafi fyng-hyntaf-anedic fy anwiredd? ffrwyth fyng-hrôth bechod fy enaid.

8Dangosodd efe it ddŷn beth dda, a pha beth a gais yr Arglwydd geni? onid gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyd a’th Dduw.

9Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a doethineb a wêl dy enw, gwrandewch y wialen a phwy ai darpar.

10Y mae etto dryssorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r Epha brin, peth ffiaidd.

11A gyfrifwn yn lân a chloriannau anwir, ac â chôd o gerric twyllodrus?

12Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, ai thrigolion a ddywedasant gelwydd: a thafod twyllodrus yn eu genau.

13A minnef hefyd a ddechreuais dy daro anrheithio am dy bechodau.

14Ti a fwyttei ac ni’th ddigonir, a’th ostyngiad o’th fewn dy hun, peri encilio hefyd ac ni’s achubi, a’r hyn a achubech a roddai i’r cleddyf.

15Ti a haui, ond ni fedi, ti a fethri’r oliwydd, ond ni’th îrir ag olew, wîn newydd ac nid yfi wîn.

16Cadw’r ydych ddeddfau Omri, 2.Bren.6.6. Luc.12.47. a holl ddeddfau tŷ Ahab, a rhodio’r ydych yn eu cynghorion: am hynny mi a’th roddaf yn anrhaith, a’th drigolion iw ffeio, a gwarth fy mhobl a ddygwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help