Iudith 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Iudith yn gweddio am nerth. 8 Ac yn torri gwddf Holophernes. 10 yn dychwelyd i Bethulia, ac yn llawenhau ei phobl.

1A Phan hwyrhaodd hi, ei weision ef a fryssiasant i fyned ymmaith, a Bagoas a gaeodd ei babell o’r tu allan, ac a ollyngodd ymmaith y rhai oeddynt yn sefyll gerbron ei arglwydd, ac hwy a aethant iw gwelâu.

2Canys yr oeddynt hwy oll yn ddeffygiol, o herwydd hîr y buase y wledd: ac Iudith a adawyd ei hun yn y babell.

3Ac Holophernes oedd yn gorwedd ar ei wely, canys yr oedd efe wedi ymlenwi o wîn.

4Ac Iudith a ddywedodd wrth ei llaw-forwyn, am iddi hi sefyll o’r tu allan iw stafell, a disgwil am ei dyfodiad hi allan, megis beunydd: o blegit hi a ddywedodd ei bod hi yn myned allan iw gweddi, ac wrth Bagoas y dywedodd yr vn ffunyd.

5Felly pawb a aethant ymmaith oi gŵydd hi, ac ni adawyd neb yn yr stafell o fychan i fawr: yna Iudith yn sefyll wrth ei wely ef a ddywedodd yn ei chalon, ô Arglwydd Dduw pob nerth, edrych di yr awr hon ar waith fy nwylo er derchafiad Ierusalem.

6Canys yn awr y mae yr amser i gynnorthwyd dy etifeddiaeth, ac i gwplau fy amcannion i, er destruwio y gelynnion y rhai a gyfodasant i’n herbyn ni.

7Yna hi a ddaeth at erchwyn y gwely yr hwn oedd wrth ben Holophernes, ac a dynnod i lawr ei gleddyf ef oddi yno: ac hi a ddaeth yn nes at y gwely, a ymaflodd yng-wallt ei ben ef, ac a ddywedodd:

8Nertha di fi ô Arglwydd Dduw y dydd hwn, ac hi a darawodd ei wddf ef ddwy waith ai nerth, ac a dynnodd ymmaith ei ben ef oddi wrtho, ac a dreiglodd ei gorph ef o’r gwely, ac a dynnodd ymmaith y canepi oddi ar y colofnau, ac wedi ychydic hi a aeth allan, ac a roddes ben Holophernes iw llaw­forwyn, a hithe ai rhoddes ef yn y tudded eu bwyd hwynt.

9Yna hwy a aethant allan ill dwyoedd yng­hyd, fel y byddent arferol wrth fyned i weddio, a chan fyned trwy ’r gwerssylloedd hwy a amgylchasant y dyffryn hwnnw, a hwynt a aethant i fynu i fynydd Bethulia, ac a ddaethant wrth ei phyrth hi.

10Yna y dywedodd Iudith o hîr-bell wrth y rhai oeddynt yn cadw y pyrth, agorwch, agorwch weithian y porth: Duw, ein Duw ni sydd gyd â ni, i wneuthur etto rymmyster yn Israel, a chadernid yn erbyn y gelynnion, fel y gwnaeth efe heddyw.

11A phan glybu gwŷr y ddinas honno ei llais hi, hwynt a fryssiasant ddyfod i wared at borth eu dinas, a hwynt a alwasant yng-hyd henuriaid y ddinas.

12A hwynt oll a redasant o fychan i fawr canys ammeu oedd ganddynt y deue hi: felly hwynt a agorasant y porth, ac ai derbynniasant hwynt.

13Ac a gynneuasant dân yn oleu, ac a safasant oi hamgylch hwynt ill dwy.

14Yna hi a ddywedodd wrthynt hwy â llef vchel:

15Moliennwch Dduw, moliennwch, mo­liennwch Dduw, canys ni thynnodd efe ymmaith ei drugaredd oddi wrth dŷ Israel, eithr efe a ddinistriodd ein gelynnion ni drwy fy llaw mau fi y nôs hon.

16Yna hi a dynnodd ei ben ef allan o’r cŵd, ac ai dangosodd, ac a ddywedodd wrthynt:

17Wele ben Holophernes pen tywysog milwriaeth yr Assyriaid, ac wele y bryccan yn yr hwn yr oedd efe yn gorwedd yn ei feddwdod: a’r Arglwydd ai tarawodd ef trwy law benyw.

18Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a’m cadwodd i yn y ffordd ar hyd yr hon y rhodiais, fy wyneb i ai twyllodd ef iw golledigaeth ei ac ni wnaeth efe bechod gyd â mi drwy halogedigaeth neu warth.

19Yna y synnodd ar yr holl bobl yn anruthr, ac a ymgrymmasant, ac a addolasant Dduw, ac a ddywedasant o vn fryd: bendigedic ydwyt ti ein Duw ni yr hwn a wnaethost elynnion dy bobl yn ddiddim y dydd heddyw.

20Yna Ozias a ddywedodd wrthi hi, ô ferch bendigedic wyt ti gan Dduw goruchaf, rhagor yr holl wragedd y rhai ydynt ar y ddaiar.

21A bendigedic yw ’r Arglwydd Dduw yr hwn a greawdd y nefoedd, a’r ddaiar, yr hwn a’th gyfarwyddodd di i archolli penn tywysog ein gelynion ni.

22Diau nad ymedu dy obaith di o galon dynion, canys hwy a gofiant nerth Duw yn dragywydd: a Duw a wnêl hyn yn glôd tragywyddol i ti, ac a ymwelo â thi â daioni, o herwydd nad arbedaist dy enioes o achos cystudd dy genedl, eithr achubaist flaen ein cwymp ni, gan rodio yn iniawn yng-olwg ein Duw ni.

23A’r holl bobl a ddywedasant, poed gwîr fyddo, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help