1.Corinthiaid 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Y mae sanct Paul yn y bennod ymma oll, yn atteb i’r Corinthiaid yng-hylch priodas, ac yn dangos pa les, a pha afles y mae priodas yn ei beri.

1Ac am y pethau yr scrifennasoch attaf: da i ddyn na chyffyrdde â gwraig.

2Ond rhag godineb cymmered pob dyn ei wraig ei hun, a phob ei gŵr ei hun.

3 1.Pet.3.7. Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys dâ, a’r vn wedd y wraig i’r gŵr.

4Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorph ei hun, ond i’r gŵr: ac yr vn-ffunyd nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorph ei hun, ond i’r wraig.

5Na siommwch ei gilydd, oni bydd peth trwy gydundeb tros amser, i gael hamdden i ymprydio, ac i weddio: ac eil-waith deuwch yng-hyd rhag i Satan eich temptio, o blegit eich anlladrwydd.

6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ymgeledd nid o orchymyn.

7Canys mynnwn fod pawb fel finne, eithr y mae i bawb ei ddawn ei hun gan Dduw, i vn fel hyn, i arall modd arall.

8Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb eu prioei, a’r gweddwon, mai da iddynt pes arhoent megis fy-fi.

9Eithr oni allant ymgynnal, priodant, canys gwell yw priodi nag ymlosci.

10Ac am y rhai sy wedi eu clymmu trwy briodas nid myfi sydd yn gorchymyn, ond yr Arglwydd, Math.5.32|MAT 5:32 & 19.9.|MAT 19:9. marc.10.11.|MRK 10:11. luc.16.18.nac ymadawed y wraig oddi wrth ei gŵr.

11Ac os ymedu hi, arhoed heb priodi, neu cymmoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymmaith.

12Ac wrth y llall dywedyd yr wyfi, ac nid yr Arglwydd: os bydd i vn brawd wraig angrhedadwy, na wrthoded efe mo honi hi, a hithau yn fodlon i aros gyd ag ef.

13A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr heb gredu, ac yntef yn fodlon i aros gyd â hi, na wrthoded hi ef.

14Canys y gŵr di-gred a sancteiddir trwy y wraig, a’r wraig ddi-gred a sancteiddir trwy y gŵr: pe amgen aflan yn ddiau fydde eich plant, eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15Eithr os yr anghredadyn a ymedu, ymadawed, nid yw y brawd neu y chwaer gaeth yn y cyfryw eithr Duw a’u galwodd ni mewn heddwch.

16O herwydd beth a wyddost ti (ô wraig) a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost ti (ô ŵr) a gedwi di dy wraig?

17Ond megis y darfu i Dduw rannu i bawb, megis y darfu i’r Arglwydd alw pawb, felly rhodied, ac fel hyn yr wyf fi yn ordeinio yn yr eglwysi oll.

18Os galwyd neb wedi ei enwaedu? nac ad-geisied os galwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.

19Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadwedigaeth gorchymynnion Duw.

20 Ephes.4.1. Arhosed pob vn yn yr alwedigaeth i’r hon y galwyd ef.

21Ai yn wâs i’th alwyd? na fydded gwaeth gennit, etto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha yn hytrach.

22Canys y neb a alwyd yn wâs yn yr Arglwydd sydd rydd i’r Arglwydd: hefyd yr hwn a alwyd yn rhydd, gwâs yw i Grist.

23 Pen 6.20.|1CO 6:20. 1.Pet.1.18. Er gwerth i’ch prynwyd, na fyddwch weision dynion.

24Y brodyr, arhosed pob dyn yn y y galwyd ef gyd â Duw.

25Tu ag at am weryfon, nid oes gennif vn gorchymyn gan yr Arglwydd: eithr yr ydwyf yn rhoddi cyngor, fel vn a gafas drugaredd gā yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.

26Am hynny tybied yr wyf mai da ydyw, mai da ydyw tros yr angen rhaid presennol, i ddŷn fod felly.

27A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd, a wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.

28Hefyd os priodaist, ni phechaist, ac os prioda gweryf, ni phechodd: er hynny y cyfryw a gânt flinder yn y cnawd, eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

29Dywedyd yr wyfi hyn frodyr, am fod yr amser yn fyrr, y mae yn ôl fod y rhai fy a gwragedd iddynt megis pe byddent hebddynt,

30A’r rhai a ŵylant megis heb ŵylo, a’r rhai a lawenhânt fel heb lawenhau, a’r rhai a brynant fel heb feddu,

31A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.

32Eithr mynnwn eich bod yn ddiofal, yr hwn sydd heb priodi sydd yn gofalu am bethau yr Arglwydd: pa wedd y gall fodloni yr Arglwydd:

33Ond y neb a wreicâodd sydd yn gofalu am bethau y byd, pa wedd y bodlona ei wraig.

34Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a morwyn, y mae yr hon sydd heb briodi yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd mewn corph, ac yspryd, ac y mae yr hon sydd wedi priodi yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’r gŵr.

35Hyn yr wyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi, nid i fwrw o honof fagl i chwi, eithr fel y glynoch yn weddus, ac yn dda wrth yr Arglwydd yn ddiwahan.

36Ond os bydd neb yn tybied fod yn beth anweddaidd yn erbyn ei weryf, od aiff hi tros flodau ei hoedran, a bod yn angenrhaid hynny, gwnaed a fynno, nid yw yn pechu, priodant.

37Ond yr hwn a safo yn siccr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac a meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a fwriadodd hyn yn ei galon, ar gadw o honaw ei weryf, da y mae yn gwneuthur.

38Ac am hynny, yr hwn sydd yn rhoddi yn briod sydd yn gwneuthur yn dda, a’r hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod sydd yn gwneuthur yn well.

39 Ruf.7.2. Y mae gwraig yn rhwym trwy y gyfraith tra fyddo byw ei gŵr, ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn vnic yn yr Arglwydd.

40Eithr dedwyddach yw hi er hynny os erys hi felly yn fy marn i, 1.Thes.4.8.ac yr wyfi yn tybied fod gennif Yspryd Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help