Pregeth-wr 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Mor dda yw ymadroddion pwyllog. 9 A maint chwant y cybydd.

1Na fydd brysur a’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim ger bron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd a thithe sydd ar y ddaiar, ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

2Canys megis y daw breuddwyd o drallod lawer: felly ymadrodd ffôl o laweroedd o eiriau.

3Pan Deut.23.21.adduneddech adduned i Dduw, nac oeda ei thâlu, canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd, y peth a addunedaist tâl.

4Gwell yw i ti fôd heb addunedu, nag i ti adduneddu, a bôd heb ei dalu.

5Na âd i’th enau beri i’th gnawd bêchu, ac na ddywet ger bron yr angel, anŵybodaeth yw hyn: pa ham i Dduw ddigio oherwydd dy eiriau, fel y difetho efe weithred dy ddwylaw di?

6Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, felly mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

7Os gweli dreisio y tlawd, a bwrw i lawr farn a chyfiawnder yn y wlâd: na ryfedda o achos hyn, canys y vchel yn gwylied ar vchel, y mae sydd uwch na hwynt.

8Cynnyrch y ddaiar sydd vwch law pôb peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.

9Y nêb a garo arian ni ddigonir ag arian, a’r neb a hoffo olud ni chaiff lesâd: hyn hefyd sydd wagedd.

10Lle y byddo llawer o dda y bydd llawer iw ddifa: pa fudd gan hynny i’r perchennog ond gôlwg ei lygaid.

11Melus yw hun y gweith-wr pa vn bynnac ai bychan ai llawer a fwyttu efe: ond llawnder y cyfoethog ni âd iddo gyscu.

12Y mae trueni a welais tann yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed iw perchennog.

13Derfydd am y cyfoeth hynny trwy drueni blin, ac os ennill efe fab ni dim i law hwnnw.

14Yn noeth y daeth allan ô groth ei fâm, yn noeth drachefn yr aiff ymmaith modd y daeth, ac nid arwain ddim oi lafur gyd ag ef.

15Am hynny hefyd dymma ofid blin yn hollawl, y modd y daeth, felly yn hollawl yr aiff efe ymmaith, pa fudd iddo am lafurio yn ofer?

16Ei hôll ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn digter mawr, gofid, a llîd.

17Wele beth a welais i, yn dda a thêg bwytta, ac ŷfed a chymmeryd byd da oi hôll lafur a lafurio tann yr haul hôll ddyddiau ei fywyd y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.

18Ie i bwy bynnac y rhoddes Duw gyfoeth a golud, ac i bwy bynnac y rhoddes efe rydd-did i fwyta o honynt, ac i gymmeryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur, rhodd Duw yw hyn:

19Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd am fôd Duw yn fodlon i lawenydd ei galon ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help