1Pechod Iuda a scrifennwyd â phinn o haiarn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ar dabl eu calon, ac wrth gyrn eich allorau:
2Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau ai plan-wydd wrth y pren deiliog, ar y brynnau vchel.
3O fy mynydd wyt yn y maes, dy olud holl dryssorau di a roddaf yn anrhaith am dy bechod yn yr vchelfeudd drwy dy holl derfynau.
4Ti a adewir dy hunan heb dy etifeddiaeth yr hon a roddais i ti, ac mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynnion mewn tîr nid adwaenost: canys cynneuasoch dân yn fy nîg yr hwn a lysc byth.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Esa.2.12. Ier.48.6.melldigedic yw’r gŵr a hydero mewn dŷn, ac a roddo gnawd yn fraich iddo, a’r y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd.
6Canys efe a fydd fel y grûg yn y diffaethwch, ac ni wêl pan ddêl daioni: eithr efe a gyfanedda boeth-fannau yn yr anialwch, tîr hallt, ac anghyfanneddol.
7Bendigedic yw’r gŵr yr hwn a ymddyriedo yn yr Arglwydd: ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo.
8 Psal.1.3. Canys efe a fydd megis prenn wedi ei blannu wrth y dyfroedd, yr hwn a estyn ei wraidd i’r afon, ac ni chaiff niwed er dyfod sychder, ni ofala efe, ac ni phaid a ffrwytho.
9Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a gofidus yw, pwy ai hedwyn?
10Myfi yr Arglwydd 1.Sam.16.7. 1.Cro.28.9.|1CH 28:9. Psal.7.10. Ier.11.20. Ier.20.12. Gweled.2.23.sydd yn chwilio y galon, yn profi yr arennau, ac yn rhoddi i bob vn yn ôl ei ffyrdd, yn ôl ffrwyth ei weithredoedd:
11[Fel] pettris yn eistedd ac heb ddodwi yr hwn a helio gyfoeth yn anheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedu hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd efe.
12Gorsedd ogoneddus dderchafedic o’r dechreuad lle ein cyssegr ni.
13O Arglwydd gobaith Israel y rhai oll a’th wrthodant a wradwyddir, scrifenner yn y ddaiar y rhai a giliant am iddynt adel yr Arglwydd ffynnon dyfroedd y bywyd.
14Iachâ fi ô Arglwydd, a mi a iacheuir, achub di fi, a mi a achubir, canys tydi fy moliant.
15Wele hwynt yn dywedyd wrthif, pa le gair yr Arglwydd? deuet bellach.
16Ond ni wrthodais i yn daer fod yn fugail i ti, ac ni ddymunais y swydd flîn ti a wyddost y mae yr hyn a ddaeth o’m gwefusau ger dy fron di.
17Na fydd yn ddychryn i mi, ti fyng-obaith yn nydd adfyd.
18Gwradwydder fy erlidwŷr ac na’m gwradwydder fi, brawycher hwynt, ac na’m brawycher fi: dŵg arnynt ddydd drygionus, a dryllia hwynt â drylliad dau ddyblyg.
19Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr aiff brenhinoedd Iuda, a thrwy yr hwn y deuant allan: ac yn holl byrth Ierusalem,
20A dywet wrthynt, gwrandewch air yr Arglwydd brenhinoedd Iuda, a holl Iuda, a holl bresswyl-wŷr Ierusalem y rhai a ddeuwch drwy y pyrth hyn:
21Fel hyn y dywed yr Arglwydd, disgwiliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch feichiau ar y dydd Sabboth, ac na ddygwch hwynt i mewn drwy byrth Ierusalem.
22Ac na ddygwch feichiau allan o’ch tai ar y dydd Sabboth, ac na wnewch ddim gwaith: eithr sancteiddiwch y dydd Sabboth Exod.20.9.fel y gorchymynnais i’ch tadau.
23Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clustiau, eithr caledasant eu gwarrau rhac gwrando, a rhac derbyn cerydd.
24Er hynny os llwyr wrandewch arnaf medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Sabboth, ond sancteiddio y dydd Sabboth heb wneuthur dim gwaith arno:
25Yna y daw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar Ier.22.4.orsedd Dafydd yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch hwynt ai tywysogion, gwŷr Iuda a phresswyl-wŷr Ierusalem: a’r ddinas hon a gyfanneddir byth.
26Ac o ddinasoedd Iuda, ac o amgylchoedd Ierusalem ac o wlâd Beniamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau y daw rhai yn dwyn poeth offrwm, ac aberth, a bwyd-offrwm, a thus, ac yn dwyn diolch i dŷ yr Arglwydd.
27Ond os chwi ni wrendu arnaf i sancteiddio y dydd Sabboth heb ddwyn baich, a dyfod i byrth Ierusalem ar y dydd Sabboth: yna mi a gynneuaf dân yn ei phyrth hi, yr hwn a yssa balasau Ierusalem, ac ni’s diffoddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.