Esay 44 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIIII.Duw yn addo daioni iw eglwys. 6 Efe yn vnic yn Dduw. 9 Ofered delwau a’r rhai ai gwnelont. 22 Duw yn drugarog yn maddeu pechodau: ac yn alluog i wneuthur a fynno.

1Ac yn awr gwrando Iacob fyng-wâs, ac Israel yr hwn a ddewisais.

2Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd er pan oeddit yn y groth, efe a’th gynnorthwya, nac ofna, fyng-wâs Iacob nac ofna, a’r cyfiawn yr hwn a ddewisais.

3Canys tywalltaf ddyfroedd ar y cras-dir, a ffrydau ar y sych-dir, tywalltaf fy Yspryd ar dy hâd, a’m bendith ar dy hiliogaeth.

4A hwynt a dyfant yng-hyd megis y glas-wellt, fel helyg wrth ffrydau dyfroedd.

5Hwn a ddywed eiddo’r Arglwydd ydwyfi; a’r llall ai geilw ei ar enw Iacob, ac arall a scrifenna ai law eiddo’r Arglwydd ac a ymgyfenwa ar enw Israel.

6Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Brenin Israel ai waredudd, Arglwydd y lluoedd Esay.41.5|ISA 41:5. gweledi.1:17.myfi gyntaf, diweddaf fi hefyd, ac nid Duw onid myfi.

7Pwy hefyd fel fi a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus o’m blaen i, er pan osodais bobl y byd? neu mynegant iddynt yr arwyddion a’r pethau a ddeuant.

8Nac ofnwch ac nac arswydwch, onid er hynny y treuthais it, ac y mynegais? a’m tystion chwi, a oes Duw onid myfi? canys nid duw nad adwen.

9Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedic, ni wna’r hyn a ddymunant lesâd: eu tystion ydynt hwy eu hun na welant, ac na ŵyddant fel y cywilyddier hwynt.

10Pwy a lunie dduw, neu a fwrie ddelw gerfiedic heb wneuthur dim lles?

11Wele ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd o ddynnion hwy: hwynt oll a gesclir, a safant, a ofnant, a gyd-gywilyddiant *

12Y gof fwyall, ac a weithia â glô, ac ai llunia â morthoelion, îe o nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog hefyd, ac heb nerth, nid ŷf ddwfr hyd oni deffygio.

13Y saer pren a estyn ei linin, ac ai llunia hi wrth linin côch, efe ai gweithia hi â bwyill, ac ai cymhwysa hi wrth gwmpas, ac ai gwna ar ôl delw ddŷn, fel prydferthwch dŷn i aros tŷ.

14[Efe] a aiff î dorri iddo cedr-wŷdd, ac efe a gymmer gelynen, neu dderwen, ac a ymegnîa ar brennau’r coed: plannodd bin-wŷdden, a’r glaw ai maethodd.

15A hi a aeth i ddyn i gynneu tân, ac efe a gymmer o honi, ac a ymdwyma, llysc hefyd fel y pobo fara, gweithia efe dduw hefyd, ac ai addola ef, gwnaiff ef yn ddelw gerfiedic, ac efe a ymgrymma iddo.

16Rhan o honaw a lŷsc efe yn tân, wrth ran o honaw y bwyttu gig, rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, aha ymdwymais, gwelais dân.

17A’r rhan arall yn dduw y gwnaeth, yn ddelw gerfiedic iddo, ac a ymostwng, ac a syrth oi flaen, ac a ddywed: gwaret fi, canys fy nuw ti.

18Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, canys a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, ai calonnau rhag deall.

19Ie ni feddwl yn ei galon, ie nid ŵybodaeth, na deall i ddywedyd, lloscais ei hanner ef yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwytteais: ac a wnaf fi yr rhan arall yn ffiaidd-beth? a ymgrymmaf i ddarn o bren?

20Pori lludw y mae, calon siommedic ai twyllodd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, onid geudeb sydd yn fy neheu-law?

21Meddwl hyn Iacob, ac Israel, canys fyng-wâs ti: lluniais di, gwâs i mi nac anghofia fi Israel.

22Deleais dy gamweddau fel cwmwl, a’th bechodau fel niwl: dychwel attafi canys gwaredais di.

23Cênwch nefoedd canys yr Arglwydd a wnaeth gorfoleddwch gwaelodion y ddaiar: bloeddiwch ganu fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr Arglwydd Iacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.

24Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy waredudd, a’r hwn a’th luniodd o’r grôth: myfi’r Arglwydd sydd yn gwneuthur oll, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaiar o honof fy hun.

25Yr hwn a ddiddymma arwyddion y bryd-wŷr, ac a ynfyda ddewiniaid, a drŷ y doethion yn eu hôl, ac a wna eu gŵybodaeth yn ynfyd.

26Yr hwn a gyflawna air ei wâs, ac a gwplhâ gyngor ei gennadon, yr hwn a ddywed wrth Ierusalem, ti a bresswylir, ac wrth ddinasoedd Iuda, chwi a adailedir, a chyfodaf ei hadwyau.

27Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, bydd sych, ac mi a sychaf dy afonydd.

28Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus fy mugail, am gyflawni o honaw ef fy holl ewyllys, ac am ddywedyd wrth Ierusalem, ti a adailedir, ac wrth y deml, ti a sylfeinir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help