Numeri 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Trefn y rhoddion a roddyd yng-hyd a’r aberthau. 24 am bechod a wneler heb wybod, 30 neu trwy ryfyg. 32 cosp yr hwn a gasclodd friwydd ar y Sabboth. 38 Gweltiau y gorchymynnion.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

2Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt: Lefit.23.10.pan ddeloch i dîr eich presswylfa, yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi i chwi,

3Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i’r Arglwydd offrwm poeth, neu aberth gan Leuit.22.2.neilltuo adduned, naill ai yn eich offrwm gwirfodd, ai ar eich gwyliau gosodedic, gan wneuthur Exod.29.18.arogl esmwyth i’r Arglwydd o’r eidionnau, neu o’r praidd:

4Yna Leuit.2.1.offrymmed yr hwn a offrymmo ei rodd i’r Arglwydd o beillied ddecfed ran Epha, wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd ran Hin o olew yn fwyd offrwm.

5Ac offrwm di gyd a’r offrwm poeth, neu aberth bedwaredd ran Hin o wîn am bob oen yn ddiod offrwm.

6A thi a offrymmi yn fwyd offrwm gyd a hwrdd o beillied ddwy ddecfed rā wedi ei gymmyscu trwy drydedd ran Hin o olew.

7A thrydedd ran Hin o wîn yn ddiod offrwm: yr offrymmu arogl esmwyth i’r Arglwydd.

8A phan ddarperech lô buwch yn offrwm poeth, neu aberth gan nalltuo adduned, neu hedd i’r Arglwydd:

9Yna offrymmed yn fwyd offrwm gyd a llo y fuwch o beillied dair decfed ran wedi ei gymmyscu trwy haner Hin o olew.

10Ac offrwm haner Hin o wîn yn ddiod offrwm aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

11Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fynn.

12Yn ol y rhifedi yr hwn a ddarparoch, felly y darperwch i vn yn ol eu rhifedi.

13Pob priodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

14A phan ymdeithio dieithr-ddyn, neu yr hwn yn eich plith, drwy eich cenhedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd, fel y gwnewch chwi, felly gwnaed yntef.

15O dyrfa, yr Exod.12.49. Num.9.14.vn ddeddf ichwi, ’ac i’r ymdaithydd dieithr: deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau, megis chwi, felly y bydd y dieithr ger bron yn Arglwydd.

16Un gyfraith, ac vn ddefod fydd i chwi ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyd a chwi.

17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses hefyd gan ddywedyd.

18Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt: pan ddeloch i’r tîr yr hwn yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo.

19Yna pan fwytaoch o fara y tîr, y derchefwch offrwm derchafel i’r Arglwydd.

20O flaenion eich toes yr offrymmwch deissen yn offrwm derchafel: fel offrwm derchafel y llawr dyrnu, felly y derchefwch hithe.

21O ddechreu eich toes y Leuit.23.14rhoddwch i’r Arglwydd offrwm derchafel drwy eich cenhedlaethau.

22A phan Leuit.4.2.eloch tros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses.

23Sef yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchymynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan trwy eich cenhedlaethau:

24Yna bydded, Leuit.4.13.os allan o olwg y gynnulleidfa y gwnaed trwy anwybod, i’r holl gynnulleidfa ddarparu vn bustach ieuangc yn offrwm poeth, i yn arogl esmwyth i’r Arglwydd, ai fwyd offrwm, ai ddiod offrwm wrth y ddefod, ac vn bwch geifr yn bech aberth.

25A gwnaed yr offeiriad iawn tros holl gynnulleidfa meibiō Israel, a maddeuir iddynt: canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrymmau yn aherth tanllyd i’r Arglwydd, ai pech aberth ger bron yn Arglwydd am eu anhwybodaeth.

26A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysc: canys 62 i’r holl bobl trwy anwybod.

27Ond Leuit.4.27.os vn dyu a becha trwy amryfusedd, yna offrymmed afr flwydd dros bechod.

28A gwnaed yr offeiriad iawn ger bron yr Arglwydd tros y dyn amryfusol, pan becho trwy amryfusedd, gan wneuthur iawn trosto fel y maddeuir iddo.

29Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysc, vn gyfiaith fydd i chwi am wneuthur trwy amryfusedd.

30Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg o briodor, neu o ddieithr, cablu’r Arglwydd y mae, torrir ymmaith y dyn hwnnw o fysc ei bobl.

31O herwydd mai gair yr Arglwydd a ddiystyrodd efe, ai orchymyn a dorrodd efe, llwyr dorrer ymmaith y dyn hwnnw, ei anwiredd ynddo.

32Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant ŵr yn cynnytta ar y dydd Sabboth.

33A’r rhai ai cawsant ef, ai dugasant ef y cynnyttwr at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.

34A gosodasant ef mewn Leuit.24.12.dal-fa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.

35A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, lladder y gŵr yn farw, llabyddied yr holl gynnulleidfa ef a meini, o’r tu allan i’r gwerssyll.

36A’r holl gynnulleidfa ai dugasant ef i’r tu allan ir gwerssyll, ac ai llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

37A llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:

38Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, Deut.22.12. Matth.23.5.am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, drwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glâs ar eddi y godro.

39A bydded pan edrychoch chwi ar yr eddi, yna gofio o honoch holl orchymynnion yr Arglwydd, ai gwneuthur hwynt: ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn putteinio ar eu hôl.

40Fel y cofioch, ac y gwneloch fy holl orchymynnion maufi, ac y byddoch yn sanctaidd i’ch Duw.

41Myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht i fod i chwi yn Dduw: myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help