1.Cronicl 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Dafydd yn cynghori Salomon i adailadu’r deml: ac i ofni Duw.

1Yna y casclodd Dafydd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosparthiadau y rhai oeddynt yn gwasanaethu’r brenin: tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cantoedd, a thywysogion holl olud, a meddiant y brenin, ai feibion, gyd a’r stafellyddion, a’r cedyrn, a phob vn grymmusol o nerth i Ierusalem.

2A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, gwrandewch arnaf fi fy mrodyr, a’m pobl: myfi yn fyng-halon adailadu tŷ gorphywysfa i Arch cyfammod yr Arglwydd, Psal.99.5.a lleithic i draed ein Duw ni, ac mi a baratoais tu ag at adailadu.

3Yna Duw a ddywedodd wrthif, 2.Sam.7.13. 1.Cron.22.8.nid adailedi di dy i’m enw mau fi, canys rhyfel-wr ydwyt, a gwaed a dywelltaist ti.

4Ac Arglwydd Dduw Israel a’m etholodd i o holl dŷ fy nhâd i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys o Iuda y dewise efe lywiawdur, ac o dŷ Iuda tŷ fy nhâd i, ac o feibion fy nhâd, efe a fynne i mi deyrnasu ar holl Israel.

5 Doeth.9.7. Ac o’m holl feibion inne (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi) efe hefyd a ddewisodd Salomon fy mab i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd yn Israel.

6Dywedodd hefyd wrthif: Salomon dy fab di, efe a adailada fy nhŷ a’m cynteddau, canys dewisais ef yn fab i mi, a minne a fyddaf iddo ef yn dâd.

7Ai frenhiniaeth ef a gadarnhaf yn dragywydd, os efe a ymegnia ar wneuthur fyngorchymynnion, a’m barnedigaethau megis y dydd hwn.

8Ac yn awr yng-ŵydd holl Israel, cynnulleidfa’r Arglwydd, ac lle y clywo ein Duw ni, cedwch, a cheisiwch holl orchymynnion yr Arglwydd eich Duw: fel y meddiannoch y wlâd dda ac y rhoddoch etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.

9A thithe Salomon fy mab cydnebydd Dduw dy dâd, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac ag enaid ewyllyscar: 1.Sam.16.7. Psal.7.10. Ier.11.20. & 17.10. & 20.12canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau: o cheisi ef ti ai cei ef, ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymmaith yn dragywydd.

10Gwêl yn awr mai’r Arglwydd a’th ddewisodd di i adailadu tŷ y cyssegr: ymegnîa, a gwna

11Yna y rhoddes Dafydd i Salomon ei fab bortreiad y porth ai dai, ai selerau, ai gellau, ai stafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa.

12A phortreiad yr hyn oll a oedd mewn cof ganddo ef am gynteddau tŷ’r Arglwydd, ac am yr holl stafelloedd o amgylch: am dryssorau tŷ Dduw, ac am dryssorau y pethau cyssegredic.

13Ac am ddosparthiadau yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac am holl waith gwenidogaeth ty’r Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ’r Arglwydd.

14Am yr aur, am bwys yr aur tu ag at holl lestri pob gwasanaeth, am holl lestri arian mewn pwys: tu ag at holl lestri pob math wasanaeth.

15A phwys 1.Bren.7.49.y canhwyll-brennau aur, ai llusernau aur hwynt, wrth bwys pob canhwyll-bren ai lusernau: ac am y canhwyll-brennau arian wrth bwys, y canhwyll-bren ai lusernau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyll-bren.

16Aur hefyd bwys tu ag at fyrddau gosod i bob bwrdd: ac arian i’r byrddau arian.

17Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r phiolau, 1.Bren.7.51.ac i’r dysclau, ac i’r gorflychau aur wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys bob gorflwch.

18Ac i allor yr arogl-darth aur pur wrth bwys, ac i bortreiad cerbyd y Cerubiaid aur yn ymledu, ac yn gorchguddio Arch cyfammod yr Arglwydd.

19Hyn oll mewn scrifen o law’r Arglwydd attafi, a wnaeth imi ddeall holl waith y portreiad.

20A dywedodd Dafydd wrth Salomon ei fab, ymgryfha, ac ymegnia, a gweithia, nac ofna, ac na arswyda: canys yr Arglwydd Dduw fy Nuw: gyd a thi, nid ymedu efe a thi, ac ni’th wrthit nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ’r Arglwydd.

21Wele hefyd ddosparthiadau’r offeiriaid a’r Lefiaid i holl wasanaeth tŷ Dduw: a chyd a thi yn yr holl waith, o bob rhai ethrylgar, mewn cywreinrwydd i bob gwasanaeth, y tywysogion hefyd, a’r bobl oll wrth dy holl orchymynnion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help