Psalmau 79 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxxix.Psalm i Asaph.

1 Y cenhedloedd ô Dduw a ddaethant i’th etifeddiaeth, halogâsant dy Deml sanctaidd gosodâsant Ierusalem yn garneddau.

2Rhoddâsant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, chîg dy sainct i fwyst-filod y ddaiar.

3Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Ierusalem, ac nid cladde.

4Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymmydogion, dirmyg, a gwatwargerdd i’r rhai ydynt o’n hamgylch.

5Pa hŷd Arglwydd? a ddigi di’n dragywydd? a lysc dy eiddigedd di fel tân?

6Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni’th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd y rhai ni alwâsant ar dy enw.

7Canys yssasant Iacob, ac a wnaethant ei bresswylfa ef yn anghyfannedd.

8Na chofia’r anwireddau gynt i’n herbyn, bryssia, rhacflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc iawn ydym.

9Cynnorthwya ni ô Dduw ein iechydwriaeth er mwyn gogoniant dy enw: gwaret ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodau er dy enw.

10Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa lê eu Duw hwynt? bydded hyspys ym mhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni ddial waed dy weision yr hwn dywalltwyd.

11Deued vchenaid y carcharorion ger dy fron, yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.

12Tâl i’m cymmydogion ar y seithfed iw monwes y gabledd, drwy’r hon i’th gablâsant di ô Arglwydd.

13A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa a’th foliannwn di yn dragywydd: ac a ddadcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help