1Y mae amser i bob peth, ac amser i bob ewyllys tann y nefoedd.
2Amser sydd i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio y peth a blannwyd.
3Amser i ladd, amser i iachau, amser i fwrw i lawr, ac amser i adailadu.
4Amser i ŵylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio.
5Amser i daflu cerrig, ac amser i gasclu cerrig, amser i ymgofleidio, ac amser i ochel cofleidio.
6Amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i fwrw ymmaith.
7Amser i rwygo, ac amser i wnio, amser i dewi, ac amser i ddywedyd.
8Amser i garu, ac amser i gasaû, amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9Pa fudd i’r gweithudd o’r blinder a gymmero efe?
10Mi a welais fod hyn yn flinder a roddes Duw ar feibion dynnion i ymflino ynddo.
11[Duw] a wnaeth bôb pêth yn dêg, ac yn ei amser, îe tra fyddo yr bŷd Duw a esyd yn eu calonnau hwy y gwaith a wnaeth efe o’r dechreuad hyd y diwedd (o ddieithr pêth ni ddichon dyn ei gyrheuddyd.).
12Mi a wn nad oes ddim well iddynt, nag i bawb fôd yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
13Hefyd pa ddyn bynnac sydd yn bwyta, ac yn yfed, ac yn mwynhau daioni oi holl lafur, rhodd Dduw yw hynny.
14Mi a wn beth bynnac a wnêl Duw ei fôd yn parhau byth, ac na ellir na bwrw at na thynnu dim oddi wrtho: a bôd Duw yn gwneuthur hyn fel yr ofne dynnion ei wyneb ef.
15Y peth a fu o’r blaen sydd yr awron: a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: canys Duw a adnewydda y peth a aeth heibio.
16Hefyd mi a welais dann yr haul yn lle barn annuwoldeb: ac yn lle cyfiawnder, annuwoldeb.
17Mi a ddywedais yn fyng-halon y barna Duw y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bôb ewyllys, a goruwch pôb gwaith yno.
18Mi a ddywedaswn yn fyng-halon ar ôl rheswm dynawl, (wedi i Dduw ei hun eu hamlygu hwynt, a gweled fod y rhai hyn yn anifeiliaid i’r rhai eraill)
19Fôd digwydd meibiō dynniō fel digwydd yr anifeiliaid, yr vn digwydd sydd iddynt, fel y mae’r naill yn marw, felly y bydd marw’r y llall, a bôd yr vn chwythad iddynt oll: ac am hynny nid oes mwy rhagoriaeth i ddŷn nag i anifail ond eu bôd oll yn wagedd.
20Y mae y cwbl yn myned i’r vn lle, vn ohonynt sydd o’r pridd, a phôb vn o honynt a drŷ i’r pridd eil-waith.
21Pwy a edwyn yspryd dŷn yr hwn sydd yn escynn i fyny, a chwythat anifail yr hwn sydd yn descynn i wared i’r pridd?
22Ac am hynny ni welwn i ddim yn well i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun, canys hyn yw ei rān ef: canys pwy ai dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
