1.Corinthiaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Swydd gwenidog eglwysig. 7. Nailldueth rhai yn y swydd. 9 Dirmyg y gweinidogion, au buchedd a’u poen. 15 Paul yn dangos ei awdurdod arnynt yn gyrru Tymotheus attynt, 19. Ac yn addaw dyfod ei hun.

1 Cymmered dŷn nyni fel hyn, megis gweinidogion i Grist, a gorchwylwŷr ar ddirgeledigaethau Duw.

2Am ben hyn, y gofynnir gan y gorchwylwŷr gael vn yn ffyddlon.

3Eithr am danaf fi lleiaf dim gennif, fy marnu gennych chwi, neu gan farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hunan.

4Canys ni wn i fy mod yn euog o ddim, ond er hynny ni’m cyfiawnheuir, eithr yr Arglwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu.

5 Math.7.1. ruf.2.1. Er mwyn hynny na fernwch ddim cyn yr amser, oni ddelo yr Arglwydd yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura feddyliau y galon, ac yna y bydd y glod i bawb gan Dduw.

6A’r pethau hyn frodyr, a fwriais attaf fy hun, ac at Apollos yn siampl, er eich mwyn chwi, fel y gallech ddyscu gennym ni, na byddo i neb fod yn ddoethach nag y mae yn scrifennedic, fel na ymchwytho y naill yn erbyn y llall er mwyn neb.

7Pwy a’th nailltuodd di? beth hefyd sydd gennit ar nas derbynnaist? ac os derbynniaist pa ham yr wyt ti yn ymorfoleddu megis na’s derbynniasit?

8Yr awr hon yr ydych chwi yn llawn, yn awr yr aethoch yn gyfoethogion, teyrnasasoch hebom ni: ac ôch Dduw na baech yn teyrnasu, fel y teyrnasem ninnau gyd â chwi.

9Canys tybied yr wyf, ddarfod i Dduw ein dangos ni yr Apostolion diweddaf, fel rhai wedi eu bwrw i angeu, am ein gwneuthur ni yn ddrych i’r byd, ac i’r angelion, ac i ddynion.

10Nyni ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng-Hrist, nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion, chwy-chwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.

11Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn gyrwydrus.

12 Act.20.34.|ACT 20:34. 1.thess.2.9.|1TH 2:9. 2.thess.3.8. Ac yr ydym yn llafurio gan weithio â’n dwylo ein hunain, pan i’n difenwir yr ydym yn bendithio, pan i’n herlidir yr ydym yn dioddef.

13 Math.5.44.|MAT 5:44. luc.23.34.|LUK 23:34. act.7.60. Pan i’n ceblir yr ydym yn gweddio, fel yscubion y byd y gwnaethpwyd ni, sorod pob dim hyd yn hyn.

14Nid wyf fi yn scrifennu hyn i’ch gwradwyddo chwi, ond i’ch rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl.

15Canys pe bydde i chwi ddeng-mil o athrawon yng-Hrist, er hynny nid oes nemmawr o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais yng-Hrist Iesu trwy yr Efengyl.

16Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi: byddwch ddilynwyr i mi.

17O blegit hyn yr anfonais attoch Timotheus yr hwn yw fy annwyl fab a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a goffa i chwi fy ffyrd: yng-Hrist, megis yr wyf ym-mhob man yn athrawiaethu yn yr eglwysydd oll.

18Y mae rhai wedi chwyddo megis na ddelwn i mwy attoch.

19Eithr mi a ddeuaf attoch ar fyrder, Act.18.21. iac.4.15.os ewyllysia yr Arglwydd, ac a fynnaf ŵybod nid eiriau y rhai sy yn chwyddo eithr gallu,

20Canys nid yw teyrnas Dduw mewn gair, eithr mewn gallu.

21Beth a ewyllysiwch? ai â gwialen y deuaf attoch, ynte â chariad, ac yspryd addfwynder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help