Iaco 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Wedi iddo ddangos achos pob anghyfiawnder, ac anwiredd, a hefyd achos pob grâs a daioni, 4 y mae yn cynghori caru Duw, 7 ac ymroi iddo ef, 11 bod yn dda ein habsen am ein cymydogioin, 13 ac yn ddioddefus yn ymddyried i ymgeledd Duw.

1O ba le y mae y rhyfeloedd a’r ymladdau yn eich mysc chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich trachwantau, y rhai ydynt yn rhyfela yn eich aelodau?

2Chwennychu yr ydych, ac heb gaffael, cenfigennu yr ydych, ac eiddigedd sydd arnoch, ac heb allu ymoddiwes: ymladd a rhyfela yr ydych heb gael dim, am nad ydych yn gofyn.

3Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y gallech eu treulio ar eich trachwantau.

4Chwi odinebwyr, a godineb-wragedd, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth gan Dduw? am hynny pwy bynnag a fynno fod yn gyfaill i’r byd, y mae yn ymwneuthur yn elyn i Dduw.

5A ydych chwi yn tybied fod yr Scrythur yn dywedyd yn ofer: yr Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynom ni, at genfigen y mae ei chwant?

6Eithr y mae’r Scrythur yn cynnic mwy o râs, ac am hynny yn dywedyd: Duw sydd yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi grâs i’r rhai vfydd.

7Ymostyngwch gan hynny i Dduw, gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a gilia oddi wrthych.

8Nessewch at Dduw, ac efe a nessâ attoch chwi, glanhewch eich dwylo chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi a’r meddwl dau ddyblyg.

9Ymgospwch, a galerwch, ac ŵylwch, troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch.

10 1.Pet.5.6. Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a’ch cyfyd i fynu.

11Na ddywedwch yn erbyn eu gilydd, fy mrodyr, y nêb a ddywedo yn erbyn ei frawd, a’r hwn a farno ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn gyfraith, ac yn barnu ’r gyfraith, ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti yn gyflawn-wr y gyfraith, eithr yn farn-wr.

12Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli, Rhuf.14.4.pwy ydwyt ti yr hwn wyt yn barnu ar arall?

13Iddo yn awr, y rhai a ddywedwch, heddyw neu foru ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arrhoswn yno flwyddyn: ac a farchnatawn, ac a enillwn.

14(Y rhai ni wyddoch beth a fydd y foru: canys beth ydyw eich enioes chwi? tarth yn wir ydyw yr hwn a ymddengys ychydig ac wedi hynny a ddiflanna.

15Yn lle hyn a ddylech ei ddywedyd: 1.Cor.4.19.os yr Arglwydd a’i mynn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hynny, neu hynny. )

16Eithr chwi yn awr ydych yn gorfoleddu yn eich gwâg-fôst: pob cyfryw orfoledd drwg yw.

17Am hynny y nêb a ŵyr wneuthur yn dda, ac ni’s gwnêl, mewn pechod y mae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help