Ezeciel 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.

1Wedi hynny y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

2Ha fab dŷn gwnai Ierusalem adnabod ei ffieidd-dra,

3A dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw am Ierusalem: dy drigfa, a’th enedigaeth o Esa.1.4. Esa.57.3.wlâd Canaan, dy dâd Amoriad, a’th fam yn Hitties.

4Ac dy enedigaeth, ar y dydd i’th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni’th olchwyd yn feddal, ni’th gyweiriwyd ychwaith â halen, ac ni’th rwymwyd â rhwymyn:

5Ni thosturiodd llygad wrthit, i wneuthur it vn o hyn, gan drugarhau wrthit: onid ar wyneb y maes i’th daflwyd, yn niystyrwch dy enioes, ar y dydd i’th aned.

6Yna y trammwyais heibio it, ac mi a’th welais yn ymdrybaeddu yn dy waed, a dywedais wrthit yn dy waed, bydd fyw: ie dywedais wrthit yn dy waed, bydd fyw.

7Yn fyrddiwn i’th roddais fel gwellt y maes: îe ti a amlheuir, ac a fawrheuir, ac a ddeui i harddwch mawr, addfedodd dy fronnau, a thyfodd dy wallt, a thi yn llom, ac yn noeth

8A phan drammwyais hebot canfûm di, ac wele dy amser yn amser serchawgrwydd, yna lledais fy aden drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd it, ac euthym mewn cyfammod â thi medd yr Arglwydd Dduw, felly’r aethost yn eiddof fi.

9Golchais di hefyd mewn dwfr, îe golchais dy waed oddi wrthit, ac irais di ag olew:

10Mi a’th wiscais hefyd â gwaith edef a nodwydd, rhoddais it hefyd escidiau o groen daiar-foch: a gwiscais di mewn lliain main, a gorchguddiais di â sidan,

11Felly i’th herddais â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf,

12Rhoddais hefyd fiswrn ar dy wyneb, a thlysau wrth dy glustiau: a choron hardd am dy benn.

13Felly i’th harddwyd o aur, ac arian, ac i’th wiscwyd â lliain main, ac â sidan, ac â gwaith edef a nodwydd: peillied, a mêl, ac olew a fwyteit, têg hefyd odieth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.

14Aeth allan hefyd it enw ym mysc y cenhedloedd, o’th degwch: canys cyflawn oedd, o achos fy hyfrydwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.

15Yna’r ymddyriedaist i’th degwch, a phutteiniaist wrth dy enw: a thywelltaist dy butteindra ar bob cynniwerudd, oedd eiddo ef.

16Cymmeraist hefyd o’th ddillad, a gwnaethost it vchel-feudd brithion, a phutteiniaist â hwynt, ni ddeuant, ac ni bydd

17A chymmeraist offer dy harddwch o’m haur, ac o’m harian i y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost it ddelwau gwyr: a phutteiniaist gyd â hwynt.

18Cymmeraist hefyd dy wiscoedd o waith edef a nodwydd, ac ai gwiscaist hwynt, fy olew hefyd, a’m harogl-darth a roddaist oi blaen hwynt.

19Felly fy mŵyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beillied, ac yn olew, ac yn fel, i’th borthaswn di: rhoddaist hynny hefyd oi blaen hwynt i fod yn arogl esmwyth: fel hyn y bû medd yr Arglwydd Dduw.

20Cymmeraist hefyd dy feibion, a’th ferched, y rhai a blantaasit i mi, Lefit.18.21. 2.Bren.23.10.a lleddaist hwynt yn fwyd iddynt hwy: ai bychan o’th butteindra?

21Lleddaist hefyd fy meibion, a rhoddaist hwynt, gan eu tynnu iddynt.

22A chyd a’th holl ffiaidd-dra, a’th butteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuengtid: pan oeddit lomm, a noeth, dy fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23A bu ar ôl dy holl ddrygioni (gwae, gwae it medd yr Arglwydd Dduw)

24Adailadu o honot it vchelfa, a gwneuthur it vchelfa ym mhob heol.

25Ym mhen pob ffordd yr adailedaist dy vchelfa, a gwaethost dy degwch yn ffiaidd: canys lledaist dy draed i bob cynnwerudd, ac amlheaist dy butteindra.

26Putteiniaist hefyd gyd â meibion yr Aipht, dy gymydogion cigog: ac amlheaist dy butteindra i’m digio.

27Am hynny wele estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy rann, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion merched y Philistiaid: y rhai a wradwyddwyd am dy ffordd sceler.

28Yna y putteiniaist gyd â meibion Assur, o eisieu dy ddigoni: a hefyd wedi putteinio gyd â hwynt ni’th ddigonwyd.

29Onid chwanegaist dy butteindra yngwlâd Canaan gyd a’r Caloeaid: ac eito ni’th ddigonwyd yn hyn.

30Morr llesc yw dy galon medd yr Arglwydd Dduw, gan it wneuthur hynny oll: gwaith puttein-wraig anllywodraethus.

31Pan adailedaist dy vchelfa ym mhenn pob ffordd, ac y gwnaethost dy vchelfa ym mhob heol, ac nid oeddit fel puttain yn dirmygu gwobr.

32Ond fel gwraig a dorre ei phriodas, ac a gymmere ddieithraid yn lle ei gŵr.

33I bob puttain y rhoddant wobr, ond ty di a roddaist dy wobr i’th holl gariadau: ac ai gobrwyaist hwynt i ddyfod attat oddi amgylch yn dy butteindra.

34Am hynny yr wyt ti yn y gwrthwynebi wragedd yn dy butteindra, ac ni phutteiniwyd ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac ni roddir it, yna’r wyt yn y gwrthwyneb.

35Gan hynny ô buttain clyw air yr Arglwydd,

36Fel hyn y dywed yr Arglwydd Ddnw, am dywallt dy frynti, a datcuddio dy noethni yn dy butteindra gyd a’th gariadau, a chyd a’th holl eulynnod ffiaidd: ie yng-waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt:

37Am hynny wele fi yn casclu Ezec.23.9.dy holl gariadau y rhai y cydiaist â hwynt: îe y rhai oll a geraist, gyd a’r rhai oll a gaseaist, pan gasclwyf hwynt i’th erbyn oddi amgylch: yna y dinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelant dy holl frynti.

38Barnaf di hefyd â barnedigaethau putteiniaid, a’r rhai a dywalltant waed: a rhoddaf di yn waed llidiawgrwydd, ac eiddigedd.

39Ie rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, yna y dinistriant dy vchelfannau, a diwreiddiant dy vchel-leoedd: dioscant di hefyd o’th ddillad, a chymmerant ddodrefn dy harddwch, ac a’th adawant yn llomm, ac yn noeth.

40Dygant hefyd dyrfa i’th erbyn, ac a’th labyddiant â meini, ac ai cleddyfau i’th drywanant.

41 2.Bren.25.9. Lloscant hefyd dy dai â thân, a gwnant arnat farnedigaethau yng-olwg gwragedd lawer: felly y gwnaf it beidio â phutteinio, ac hefyd na roddech wobr mwy.

42Ie llonyddaf fy llid i’th erbyn, a symmudaf fy eiddigedd oddi wrthit: llonyddaf hefyd ac ni ddigiaf mwy.

43Am na chofiaist ddyddiau dy ieuengctid, onid an̄ogaist fi i lid yn hyn oll, am hynny wele myfi a roddaf dy ffordd ar benn, medd yr Arglwydd Dduw fel na wnelech yr scelerder hynn, gyd a’th holl ffieidd-dra.

44Wele pob diharebudd a ddihareba am danat gan ddywedyd: fel y fam y mae yr ferch.

45Merch dy fam yr hon a ffieiddiodd ei gŵr ai meibion ti: a chwaer dy chwiorydd, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr ai meibion ti: eich mam Hitties, a’ch tâd yn Amoriad.

46A’th chwaer hynaf yw Samaria ai merched, yr hon sydd yn trigo ar dy law asswy: a’th chwaer ieuangach nâ thi’r hon sydd yn trigo ar dy law ddehau Sodoma ai merched.

47Ac ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, nid yn ôl eu ffieidd-dra hwynt y gwnaethost, megis ychydig bach ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd.

48[Nid] byw fi medd yr Arglwydd Dduw, os gwnaeth Sodoma dy chwaer, hi ai merched, fel y gwnaethost ti a’th ferched.

49Wele hynn oedd anwiredd dy chwaer Sodoma, Gen 19.24.balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd iddi, ac iw merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog, na’r tlawd.

50Onid ymdderchafasant, a gwnaethant ffiaidd-dra o’m blaen, am hynny y symmudais hwynt fel y gwelais yn dda.

51Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod ti, canys amlheaist dy ffieidd-dra yn fwy nâ hwynt, a chyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd-dra y rhai a wnaethost.

52Dŵg dithe dy wradwydd, (yr hon a fernaist ar dy chwaer) am dy bechod yr hwn y buost ffieiddiach nâ hwynt: cyfiawnach ydynt nâ thi: cywilyddia dithe, a dwg dy wradwydd, gan gyfiawnhau o honot dy chwiorydd.

53Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, sef caethiwed Sodoma ai merched, a chaethiwed Samaria ai merched: yna y gaethiwed dy gaethion dithe, a’th ferched,

54Fel y dygech dy warth, ac i’th wradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gyssuro o honot hwynt.

55Dy chwiorydd hefyd ai Sodoma, merched pan ddychwelant iw cynnefyn, a Samaria ai merched pan ddychwelant iw cynnefyn: yna tithe a’th ferched a ddychwelwch i’ch cynnefyn.

56Canys nid oedd mo’r sôn am Sodoma dy chwaer yn dy enau, yn nydd dy falchder.

57Cyn 2.Cron.28.19.dinoethi dy ddrygioni, megis amser gwradwydd merched Syria, a holl ferched y Philistiaid oi hamgylch: y rhai a’th ddiysiyrant di o bob-parth.

58Dy scelerder, a’th ffieidd-dra hefyd, ti ai dygaist hwynt medd yr Arglwydd.

59Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyrraist lŵ, i ddiddymmu y cyfammod.

60Etto mi a gofiaf fyng-hyfammod â thi, yn nyddiau dy ieuengtid, ac a siccrhaf it gyfammod tragywyddol.

61Yna y coffei dy ffyrdd, ac y cywilyddi pan dderbynniech dy chwiorydd hyn nâ thi, gyd a’r rhai ieuangach nâ thi: canys rhoddaf hwynt yn ferched it, a nid o’th ammod ti.

62Ie siccrhaf fyng-hyfammod â thi, a chei ŵybod mai myfi yr Arglwydd.

63Fel y cofiech di, ac y cywilyddi, ac na byddo it mwy agorid safn gan dy wradwydd, pan wnelwyf iawn trosot am yr hyn oll a wnaethost medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help