1.Machabæaid 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Demetrius yn teynasu wedi iddo ef ladd Antiochus a Lysias. 5 Efe yn blino plant Israel trwy gyngor dynion drygionus. 37 Gweddi yr offeiriaid yn erbyn Nicanor. 41 Iudas yn lladd Nicanor.

1YN yr vnfed flwyddyn ar ddêc a deugain a chant, Demetrius mab Seleucus a ddaeth o Rufain ag ychydic wŷr i ddinas yng-lann y môr, ac a deyrnasodd yno.

2A phan ddaeth efe i frenhin-dŷ ei henafiaid, ei lu ef a ddaliasant Antiochus a Lysias iw dwyn atto ef.

3A phan ŵybu efe hynny, efe a ddywedodd, na ddangoswch i mi eu hwynebau hwy.

4A’r llu ai lladdodd hwynt, a Demetrius a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.

5Yna dynion drigionus annuwiol o Israel a ddaethant atto ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwennychu bod yn offeiriad.

6A’r rhain a gyhuddasant y bobl wrth y brenin gan ddywedyd, Iudas ai frodyr a laddasant dy garedigion, ac a’n gyrrasant ni allan o’n gwlâd.

7Am hynny danfon ryw ŵr credadwy yrywan i fyned, ac i weled yr holl ddestruw a wnaeth efe arnom ni, ac ar wlâd y brenin, ac iw gospi ef ai gymhorth-wŷr.

8Yna ’r brenin a ddewisodd Bacrhides caredig y brenin gŵr galluoc yn y deyrnas yn llywodraethu o’r tu draw i’r afon, ac yn ffyddlon i’r brenin, ac ai danfonodd ef.

9Ac efe a wnaeth Alcimus annuwiol yn arch-offeiriad, ac a orchymynnodd iddo ef ddial ar blant Israel.

10Ac hwy a ymadawsant ac a ddaethant â llu mawr i wlâd Iuda, ac a ddanfonasant genadon at Iudas ai frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllodrus wrthynt hwy.

11Am hynny ni chredodd Iudas ai bobl iw geiriau hwy: canys hwy a welsant ddyfod o honynt hwy â llu mawr.

12Wedi hyn cynnulleidfa o’r scrifennyddion a ymgasclodd at Alcimus a Bacchides i geisio ammodau rhesymmol.

13A’r Asidaiaid oedd y rhai cyntaf ym­mlhith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,

14Gan ddywedyd, o hâd Aarō y daeth rhyw offeiriad â llu, ac ni wna efe gam â nyni.

15Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt hwy gan ddywedyd, ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i’n caredi­gion.

16Ac hwy ai credasant ef, ond efe a ddaliodd dri vgeinwr o honynt hwy y diwrnod hwnnw, ac ai lladdodd hwy yn ôl y geiriau a scrifennodd

17Hwy Psal.79.2.a daflasant gnawd dy sainct di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o amgylch Ierusalem, ac nid oedd neb ai cladde hwynt.

18Ac ofn mawr a dychryn a ddaeth ar yr holl bobl gan ddywedyd, nid oes na gwirionedd na chyfiawnder ynddynt hwy, o blegit hwy a dorrasant y llw a’r ammod a wnaethant hwy.

19A Bacchides a ysmudodd ei lu o Ierusalem, ac a werssyllodd yn Beth-zecha, ac a ddanfonodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o’r bobl, ac ai taflodd hwy i glawdd mawr.

20Yna efe a orchymynnodd y wlâd i Alcimus, ac a adawodd ryfel-wŷr gyd ag ef iw gymhorth ef, a Bacchides ei hun a aeth at y brenin.

21Ac felly Alcimus â ymegnîodd am yr arch-offeiriadaeth.

22A’r holl rai oeddynt yn cythryblu y bobl a ymgasclasant atto ef, ac a ennillasant wlâd Iuda, ac a wnaethāt ddrwg mawr i’r Israeliaid

23Pan welodd Iudas yr holl ddrwg a wnaethe Alcimus, a’r rhai oeddynt gyd ag ef i’r Israeliaid, mwy nag a yr cenhedloedd,

24Efe a drammwyodd trwy holl derfynau Iuda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwŷr anffyddlon a ffoasent ymmaith, oni phei­diasant hwy a dyfod mwy i’r wlâd.

25Pan welodd Alcimus fod Iudas a’r rhai oeddynt gyd ag ef yn drêch nag y galle efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y brenin, ac ai cyhudodd hwynt o ddrygioni.

26Yna ’r brenin a ddanfonodd Nicanor vn oi dywysogion pennaf yr hwn oedd yn casau, ac yn dwyn gelynniaeth i Israel, ac a orchymynnodd iddo ef ddestruwio ’r bobl yn llwyr.

27A Nicanor a ddaeth i Ierusalem â llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddychol at Iudas ai frodyr ond trwy dwyll, gan ddywedyd,

28Na fydded rhyfel rhwngof â chwychwi, mi a ddeuaf ag ychydig wŷr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.

29Felly efe a ddaeth at Iudas, ac hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol, ond yr oedd gelynnion yn barod i gippio Iudas i ffordd.

30Etto yspyswyd y peth i Iudas, mai trwy dwyll y daethe efe atto ef: am hynny efe a darfwyd oddi wrtho ef, ac ni fynne efe edrych yn ei wyneb ef mwy.

31Pan wybu Nicanor ddatcuddio ei fwriad ef, efe a aeth allan i ymladd yn erbyn Iudas, yn ymmyl Capharsalama.

32Ac yng-hylch pump mîl o wŷr o lu Nicanor a laddwyd, a’r a ffoasant i ddinas Dafydd.

33Wedi hyn Nicanor a aeth i fynu i fy­nydd Sion a rhai o’r offeiriaid, ac henaduriaid y bobl a aethant allan o’r cyssegr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo ef y poeth offrymmau yr oeddyd yn eu hoffrwm tros y brenin.

34Ond efe a chwarthodd am eu pennau hwy a’r bobl, ac ai gwatworodd hwy, ac a halogodd eu hoffrymmau hwy, ac a ddywedodd yn drahaus.

35Ac efe a dyngodd yn ei ddig gan ddywedyd, oni roddir Iudas ai werssyll yn fy-nwylo i, pan ddychwelwyf mewn heddwch, myfi a loscaf y tŷ ymma: ac efe a aeth allan mewn digllondeb mawr.

36Yna ’r offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen allor y Deml, gan ŵylo a dywedyd,

37O Arglwydd, ti a ddewisaist y tŷ ymma, i alw ar dy enw di ynddo ef, ac i fod yn dŷ gweddi, ac ymbil i’th bobl.

38Gwna ddialedd ar y gŵr hwn ai werssyll, oni ladder hwy â’r cleddyf, cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddioddef iddynt hwy barhau

39A Nicanor a aeth allan o Ierusalem, ac a werssyllodd yn Bethoron, ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.

40Ac Iudas a werssyllodd yn Adasa a thair-mîl o wŷr, ac a wnaeth ei weddi gan ddywedyd,

41O Arglwydd, 2.Bren.19.35.am gablu o’r rhai a ddaethent oddi wrth y brenin dydi, yr angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar vgain o filoedd o honynt hwy.

42Destruwia felly y gwerssyll hwn o’n blaen ni heddyw, fel y gallo pobl eraill ŵybod, fel y dywedodd efe yn ddrwg am dy gyssegr di, a chospa ef yn ôl ei ddrygioni.

43A’r gwerssylloedd a darawsant yng-hyd y trydydd dydd ar ddêc o’r mis Adar, a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.

44Pan welodd rhyfelwŷr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ymmaith, ac a ffoasant.

45Ond[yr Iddewon]ai hymlidiasant hwy daith vn diwrnod, O Adasa nes dyfod i Gazera, ac a ganasant mewn vdcyrn, gan ddangos arwyddion ar eu hôl hwynt.

46A’r a ddaethant allan o’r holl drefi Iudea oddi amgylch, ac ai herlidiasant hwy, ac hwy a droasant yn eu herbyn hwynt, felly y lladded hwy oll â’r cleddyf, ac ni adawed neb o honynt hwy, naddo vn.

47Yna hwy a gymmerasant yr yspail, a’r sclyfaeth, ac a dortasant ben Nicanor ymmaith, ai law ddehau ef, yr hon a estynnase efe allan cyn falched, ac ai dygasant hi ymmaith gyd â hwy, ac ai crogasant hi i fynu o flaen Ierusalem.

48Am hynny ’r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr.

49Ac Iudas a ordeiniodd gadw y diwrnod hwnnw y trydydd dydd ar ddêc o’r mis Adar yn ŵyl bob blwyddyn.

50Ac felly gwlad Iuda a gafodd heddwch tros ychydig amser.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help