Iosuah 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Naw llwyth a hanner yn cael tir Canaan ei gyd. 6 Rhan Caleb.

1Dymma hefyd y rhai a etifeddodd meibion Israel yng-wlâd Canaan: Num 34.17.y rhai a roddodd Eleazar yr offeiriad, ac Iosuah mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel iddynt hwy iw etifeddu.

2Wrth goel-bren eu hetifeddiaeth hwynt: Num.26.55. & 33.54.fel y gorchymynnase’r Arglwydd drwy law Moses i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

3Canys Moses a roddase etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth o’r tu hwnt i’r Iorddonen: ond i’r Lefiaid ni roddase efe etifeddiaeth yn eu mysc hwynt.

4Canys meibion Ioseph oeddynt ddau lwyth, Manasses, ac Ephraim: am hynny ni roddasant rann o’r tîr i’r Lefiaid, onid dinasoedd i drigo, ai meusydd pentrefol iw hanifeiliaid hwynt, ai gloud.

5 Num.35.2. Fel y gorchymynnase yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, pan rannasant y wlâd.

6Yna meibion Iuda a ddaethant at Iosuah yn Gilgal, a Chaleb mab Iephun y Ceneziad a ddywedodd wrtho ef: tydi a wyddost y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegit i, ac o’th blegit dithe yn Cades Barnea.

7Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwâs yr Arglwydd fyfi o Cades Barnea i edrych ansodd y wlad: a dugum air iddo ef trachefn, fel yn fyng-halon.

8Ond fy mrodyr y rhai a aethant i fynu gyd a mi a ddigalonnasant y bobl: etto myfi a gyflawnais ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

9Am hynny y tyngodd Moses y diwrnod hwnnw gan ddywedyd, oni bydd y wlâd yr hon y sathrodd dy droed ynddi yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth, am it gyflawni ar ôl yr Arglwydd dy Dduw.

10Ac yn awr wele’r Arglwydd a’m cadwodd yn fyw fel y llefarodd efe, dymma y bummed flwyddyn a deugain er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses: tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr wele fi heddyw yn fab pum mlwydd a phedwar vgain.

11Yr ydwyf etto morr gryf heddyw a’r dydd yr anfonodd Moses fi, Eccl.46.9.fel fy nerth i yna, felly fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd ymma am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw: canys ti a glywaist y dwthwn hunnw fod yr Anciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog, ond odid yr Arglwydd gyd a mi, fel y gorescynnwyf hwynt megis y llefarodd yr Arglwydd.

13Yna Iosuah ai bendithiodd ef: ac a roddodd Hebron i Galeb fab Iephun yn etifeddiaeth.

14Am hynny 1.Mac.2.56.y mae Hebron yn etifeddiaeth i Galeb fab Iephun y Ceneziad hyd y dydd hwn: o herwydd iddo ef gwplau ar ôl Arglwydd Dduw Israel.

15Ac enw Iosua. 15.13Hebron o’r blaen Caer Arba, yr oedd ddŷn mawr ym mysc yr Anaciaid: yna y wlâd a orphywysodd heb ryfel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help