Genesis 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.4 Esau ac Iacob yn cyfarfod, ac yn cymmodi ai gilydd. 11 Esau yn derbyn anrhegion Iacob. 19 Iacob yn prynu dryll o dir. 20 Ac yn cyfodi allor.

1Ac Iacob a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele Esau yn dyfod a phedwar cant o wŷr: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.

2Ac ym mlaen, y gosododd efe y ddwy law-forwyn, ai plant hwynt: a Lea ai phlant hithe yn ol yno Rahel ac Ioseph yn olaf.

3Ac yntef a gerddodd oi blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seith-waith, oni ddaeth efe hyd at ei frawd.

4Yna Esau a redodd iw gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac ai cussanodd ef, a hwynt a wylasant.

5Ac a dderchafodd ei lygaid ac a ganfu y gwragedd, a’r plant, ac a ddywedodd, pwy yw y rhai hyn cennyt ti? yntef a ddywedodd y plant y rhai a roddes Duw i’th wâs di.

6Felly y llaw-forwynion a ddynessasant, hwynt-hwy, ai plant, ac a ymgrymmasant.

7Yna y nessaodd Lea, ai phlant hithe, ac a ymgrymmasant, ac wedi hynny y nessaodd Ioseph a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8Yna a ddywedodd, pa beth cennyt yr holl fintai accw yr hon a gyfarfûm i? yntef a ddywedodd i gael ffafor yng-olwg fy arglwydd.

9Ac Esau a ddywedodd y mae gennifi ddigon fy mrawd: bydded i ti yr hyn gennyt.

10Ond Iacob a ddywedodd nage attolwg os cefais ffafor yn dy olwg: ond cymmer fy anrheg o’m llaw fi, gan weled o honof dy wyneb di, fel gweled wyneb Duw, a’th fod yn fodlon i mi.

11Cymmer attolwg fy anrheg, yr hon a dducpwyd i ti: o blegit Duw ai roddes i mi, ac am fod gennifi bôb peth: felly efe a fu daer arno ef, ac yntef a gymmerodd:

12Ac a ddywedodd cychwynnwn ac awn, a mi a âf oth flaen di.

13Yntef a ddywedodd wrtho, fy arglwydd a ŵyr mai tyner y plant, a y praidd a’r gwarthec blithion gŷd a’m fi: os gyrryr hwynt vn diwrnod yn rhy chwyrn, yna marw a wna yr holl braidd.

14Aed attolwg fy arglwydd o flaen ei wâs, a minne a ddeuaf yn araf gyd a’r anifeiliaid y rhai o’m blaen i, a chyd ar plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15Yna Esau a ddywedodd, gadawaf yn awr gyd a thi o’r bobl y rhai gennif fi: yntef a atebodd, I ba beth hynny? cafwyf ffafor yng-olwg fy arglwydd.

16Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17Ac Iacob a gerddodd i Succoth, ac a adailadodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod iw anifeiliaid: am hynny efe a alwodd henw y lle Succoth.

18Hefyd Iacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon yng-wlad Canaan, (pan ddaeth efe o Mesopotamia,) ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19Ac a brynodd rann o’r maes yr hwn yr estynnase ei babell ynddo, o law meibion Hemor, tâd Sichem, am gant darn o arian.

20Ac a ossododd yno allor, ac ai henwodd cadarn Dduw’r Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help