1PA ham Dduw y ciliaist yn dragywydd, y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2Cofia dy gynnulleidfa a brynaist gynt, llwyth dy etifeddiaeth a warêdaist: mynydd Sion yr hwn y presswyliaist ynddo.
3Dercha dy draed i ddinistrio yn dragywydd bôb gelyn yr hwn a wnaeth niwed yn dy gyssegr.
4Dy wrthwynebwŷr a ruâsant o fewn dy gynnulleidfa: gosodasant eu banêrau yn arwyddion.
5Hynod fydde (fel vn yn dwyn i odidogrwydd) fwyîll mewn dyrys-goed.
6Ac yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau eu gyd â bwyîll ac â morthwylion.
7Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogâsant bresswylfa dy enw.
8Dywedâsant yn eu calonnau, cyd-anrheithiwn hwynt, lloscâsant holl Demlau Duw yn y tîr.
9Ni welwn ein harwyddion, nid brophwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr ddim mwyach.
10Pa hŷd Dduw warthrudda’r gwrthwyneb-wr? a gabla’r gelyn dy enw yn dragywydd?
11Pa ham y tynni yn ei hôl dy law? dy ddeheu-law? o ganol dy fonwes, difetha hwynt.
12Canys Duw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthur-wr iechydwriaeth o fewn y tîr.
13Ti yn dy nerth a barthaist y môr, drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
14Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yr anialwch.
15Ti Exod.17.6. Num.20.11.a holltaist yn ffynnō, ac yn afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cedyrn.
16Y dydd eiddot ti, y nôs hefyd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.
17Ti a osodaist holl derfynau’r ddaiar, ti a luniaist hâf, a gaiaf.
18Cofia hyn, y gelyn a gablodd yr Arglwydd, a phobl ynfyd ddifenwasant dy enw.
19Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa nac anghofia gynnulleidfa dy drueniaid byth.
20Edrych ar y cyfammod, canys llawnwyd tywyll-leoedd y tîr o gorlannau trawster.
21Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, molianned y truan, a’r anghênus dy enw.
22Cyfot ô Dduw, dadleu dy ddadl, coffa dy gabledd gan yr ynfyd beunydd.
23Nac anghofia lais dy elynnion, dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
