1Ac efe a wnaeth i’m ddychwelyd tua phorth nessaf allan y cyssegr, yr hwn oedd yn edrych tua’r dwyrain, ac efe oedd yn gaead.
2Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, y porth hwn fydd caead, Ezec.46.9.nid agorir ef, ac nid aiff neb trwyddo ef, o herwydd Arglwydd Dduw Israel aeth trwyddo ef, am hynny y bydd yn gaead.
3Y tywysog y tywysog ei hun a eistedd ynddo, i fwytta bara o flaen yr Arglwydd: ar hŷd ffordd cyntedd y porth y daw efe i mewn, a’r vn ffordd yr aiff efe allan.
4Ac efe a’m dûg i tua phorth y gogledd o flaen y tŷ, yna yr edrychais, ac wele, llawnase gogoniant yr Arglwydd dy Dduw: a mi a syrthiais ar fy wyneb.
5Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, gosot dy galon fab dŷn, a gwel a’th lygaid, clyw hefyd a’th glustiau’r hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthit, am holl ddeddfau tŷ’r Arglwydd, ac am ei holl gyfreithiau, a gosot dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o’r cyssegr.
6A dywet wrth anufyddgar dŷ Israel, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, digon yw i chwi (tŷ Israel) o’ch holl ffieidd-dra.
7Gan ddwyn o honoch Ezec.23.40.ddieithriaid dienwadedic o galon a dienwaededic o gnawd i fod yn fyng-hyssegr, gan halogi fy nhŷ mau fi, pan offrymmasoch fy mara, brasder, a gwaed, a halogi o honynt hwythau fyng-hyfammod yn eich holl ffiedd-dra chwi,
8Ac na chadwasoch gadwriaeth fy cyssegredic, eithr gossod o honoch i chwi eich hunain geidwaid fyng-hadwriaeth yn fyng-hyssegr:
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ni ddaw i’m cyssegr vn mab dieithr, dienwaededic o galon, a dienwaededic o gnawd, o’r holl feibion dieithr y rhai ym mysc meibion Israel.
10Eithr y 2.Bren.23.9.Lefiaid (y rhai a giliasant oddi wrthif, y rhai pan gyfeiliornodd Israel, a gyrwydrasant oddi wrthif ar ôl eu delwau) a ddygant hefyd eu hanwiredd eu hunain.
11Ac a fyddant yn fyng-hyssegr yn wenidogion swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn wenidogion y tŷ: hwynt a laddant yr offrwm poeth, a’r aberth i’r bobl, a hwynt a safant oi blaen hwy iw gwasanaethu hwynt.
12O herwydd gwasanaethu o honynt hwynt o flaen eu gau-dduwiau, a bod o honynt i dŷ Israel yn dramgwydd anwiredd, am hynny y derchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd.
13Ac ni ddeuant yn agos attaf fi i offeiriadu i mi, nac i nessau at fy holl sanctaidd i’r cyssegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd ai ffieidd-dra y rhai a wnaethant.
14A rhoddaf hwynt yn geidwad cadwriaeth y tŷ yn ei holl wasanaeth, at yn yr hyn oll a wneir ynddo ef.
15A’r offeiriaid y Lefiaid, meibion Zadoc y rhai a gadwasant gadwriaeth fyng-hyssegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthif, hwynt a nessânt attafi i’m gwasanaethu, ac a safant o’m blaen, i offrymmu i mi fraster a gwaed, medd yr Arglwydd Iôr.
16Hwynt a ddeuant i’m cyssegr mau fi, a hwynt a nessânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu, ac a gadwant fyng-hadwriaeth.
17A phan ddelont i byrth y cyntedd nessaf i mewn, gwiscant wiscoedd lliain, ac na ddeued gwlan am danynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nessaf i mewn, ac o fewn.
18Cappiau lliain fyddant am eu pennau hwynt, a llawdrau lliain fyddant am eu lwynau hwynt: nac ymwiscant mewn chwŷslyd
19A phan elont i’r cyntedd nessaf allan (sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan) dioscant eu gwiscoedd y rhai y gwasanaethant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cyssegr, a gwiscant ddillad eraill, ac na chyssegrant y bobl ai gwiscoedd.
20Eu pennau hefyd ni eilliant, ac na ollyngant gwallt gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau.
21Hefyd Lefit.21.13.nac yfed vn offeiriad win, pan ddelont i’r cyntedd nessaf i mewn.
22Na chymerant ychwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu yscaredic, eithr morwynion o hâd tŷ Israel, neu’r weddw, yr hon a fyddo gweddw o offeiriad a gymmerant.
23A dyscant i’m pobl rhwng cyssegr, a digyssegr, a gwnant iddynt wybod rhwng aflan a glân.
24A hwynt a safant mewn barn am ymrysson, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau mau fi: cadwant hefyd fyng-hyfreithiau a’m deddfau yn fy amseroedd gossededic, a sancteiddiant fy Sabbothau.
25Ni ddeuant y chwaith Lefit.21.1,2, 11at ddŷn marw i ymhalogi, eithr wrth dâd, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer, yr hon ni byddo eiddo gŵr yr ymhalogant.
26Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.
27A’r dydd y delo i’r cyssegr, o fewn y cyntedd nessaf i mewn, i weini yn y cyssegr, offrymmed ei bech-aberth medd yr Arglwydd Dduw.
28 Deut.18.1. Num.18.20. A’r offeiriadaeth fydd yn etifeddiaeth iddynt hwy: myfi eu etifeddiaeth hwy, am hynny na roddwch etifeddiaeth iddynt hwy yn Israel, myfi eu etifeddiaeth hwy.
29Y bwyd offrwm a’r pech-aberth, a’r aberth tros gamwedd a fwyttânt hwy, a phob diofryd-beth yn Israel fydd eiddo hwynt.
30 Exod.13.2. Exod.22.29. Exod.34.19. Num.3.13. Blaenion hefyd pob cyntafanedic oll, a derchafel offrwm pob dim oll o’ch holl dderchafel offrymmau fydd eiddo’r offeiriaid: blaen-ffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad i osod bendith ar dy dŷ.
31Na fwyttaed yr offeiriaid ddim burgyn, Exod.22.31.|EXO 22:30. Lefit 22.8.neu ysclyfaeth o aderyn, neu o anifail.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.