Esay 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Dinistr yr Ethiopiaid, a’r cenhedloedd a gynnorthwyent Senacherib, yn erbyn Ierusalem. 7 Galwedigaeth y cenhedloedd.

1Gwae’r tîr cyscodol ei ymylau, yr hwn tu hwnt i afonydd Ethiopia.

2Yr hwn a hebrwng gennadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd mewn llestri brŵyn ewch gennadon cyflym at genhedlaeth wascaredic, ac yspailiedic Deut.28.37.at bobl ofnadwy, er pan ydynt, ac etto: cenhedlaeth wedi ei sathru bob ychydig, ac ychydig yr hon yr yspeiliodd yr afonydd ei thîr.

3Holl drigolion y byd, a phresswyl-wŷr y tîr, cewch weled pan gyfoder bâner y mynyddoedd, a chewch glywed pan vdcenir vdcorn.

4Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, byddaf lonydd, a chaf weled yn fy annedd megis gwrês yn discleirio ar y lyssiau, fel niwl gwlîth yng-wres cynhaiaf.

5Canys o flaen cynhaiaf, pan ddarfyddo y blodeun a bod y grawn-win surion yn addfedu, yna y tyrr efe y brig â chrymmau, ac a tynn efe ymmaith, y tyrr y canghennau.

6Gadewir hwynt yng-hyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y tîr, ac arno ef y bwrw yr adar yr hâf, a holl anifeiliaid y tîr a aiâfant arno ef.

7Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd bobl wascaredic, ac yspailiedic, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac etto: cenedl wedi ei sathru bob ychydig, ac ychydig, yr hon yr yspeiliodd yr afonydd ei thîr, i le enw Duw yr lluoedd, fynydd Sion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help