Ieremi 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.1 Nabuchodonosor yn gwarche ar Ierusalem. 4 Y Caldeaid yn dala Sedecia wrth ffoi. 6 Yn lladd ei blant, ac yn tynnu ei lygaid yntef. 11 Rhydd-did Ieremi. 15 Diogelwch Ebedmelech.

1Yn y 2.Bren.25.1. ierem.52.4.nawfed flwyddyn i Sedecia frenin Iuda ar y decfed mîs, y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon ai holl lu yn erbyn Ierusalem, ac a warchauasant arni.

2Yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc i Sedecia, yn y pedwerydd mîs, ar y nawfed o’r mîs y rhwygwyd y ddinas.

3Yna holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant, ac a eisteddasant dann y porth canol, Neregal, Sarezer, Samgarnebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal, Sarezer, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

4Pan welodd Sedecia brenin Iuda ai holl ryfel-wŷr hwynt hwy, 2.Bren.25.4.yna y ffoâsant, ac yr aethant hwy o’r ddinas liw nôs trwy ardd y brenin i’r porth rhwng y ddau fûr: ac efe a aeth allan tua’r anialwch.

5A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a ddaliasant Sedecia yn rhossydd Iericho, ac ai cymmerasant ef, ac ai dugasant at Nabuchodonosor frenin Babilon i Riblah yng-wlâd Hemath: lle y rhoddodd efe farn arno.

6Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedecia yn Riblah yn ei olwg ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Iuda.

7Ac efe a dynnodd lygaid Sedecia, ac ai rhwymodd ef â chadwynau iw ddwyn i Babilō.

8A’r Caldeaid a loscasant dŷ yr brenin, a thai y bobl â thân: a hwynt a ddrylliasant furau Ierusalem.

9Yna Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a gaeth-gludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encil-wŷr y rhai a giliasent atto ef, a gweddill y bobl y rhai a adawsid.

10A Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a adawodd i’r bobl dlodion (y rhai nid oedd dim ganddynt) yng-wlâd Iuda, ac efe a roddodd iddynt win-llannoedd a meusydd y pryd hynny.

11A Nabuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Ieremi i Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr, gan ddywedyd:

12Cymmer di ef, a dot dy olwg arno ef, ac na wna iddo ddim niwed: onid megis y dywedo efe wrthit ti, felly gwna di ag ef.

13Felly Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a anfonodd, Nebusazban hefyd, Rabsaris, a Neregal, Sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon

14Ie hwynt a anfonasant, ac a gyrchasant Ieremi o gyntedd y carchar-dŷ, ac ai rhoddasant ef at Gedaliah fab Ahicam fab Saphan iw ddwyn ef adref: felly efe a arhosodd ym mysc y bobl.

15A gair yr Arglwydd a ddaeth at Ieremi, pan oedd efe yn rhwym yng-hyntedd y carchar gan ddywedyd:

16Dos ti, a dywet i Ebedmelech yr Ethiopiad gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er llês, a hwynt a gwplheuir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.

17Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw medd yr Arglwydd: ac ni’th roddir yn llaw y dynnion y rhai yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt.

18Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi drwy’r cleddyf: eithr bydd dy enioes yn sclyfaeth i ti, am it ymddyried ynofi medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help