1Yna y daeth gair yr Arglwydd ac Iehu fab Hanani yn erbyn Baasa gan ddywedyd:
2O herwydd i’m dy dderchafu o’r llwch, a’th roddi yn flaenor ar fy mhobl Israel: a rhodio o honot tithe yn ffordd Ieroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu gan fy nigio ai pechodau.
3Wele fi yn torri ymmaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dy ef: a rhoddaf dy dŷ fel
6A Baasa a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn Thirsa: ac Ela ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.
7Hefyd drwy law Iehu fab Hanani y prophwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, o herwydd yr holl ddyrgioni’r hwn a wnaethe efe yng-olwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef drwy waith ei ddwylaw i fod fel tŷ Ieroboam: ac o blegit iddo ei ladd ef.
8Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Iuda: y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Thirsa ddwy flynedd.
9A Zimri ei wâs ef tywysog ar hanner y cerbydau a gyd-fwriadodd yn ei erbyn ef: ac efe oedd feddw yn yfed yn Thirsa yn nhy Arsa yr hwn ben teulu yn Thirsa.
10Yna y daeth Zimri, ac ai tarawodd ef ac ai lladdodd yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Iuda: ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11A phan deyrnasodd efe, ac eistedd ar ei deyrn-gader, efe a laddodd holl dŷ Baasa, ni adawodd efe iddo ef i bisso yn erbyn y pared: nai geraint, nai gyfeillion.
12Felly Zimri a ddinistriodd holl dŷ Baasa: yn ol gair yr Arglwydd yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa drwy law Iehu y prophwyd.
13O herwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Elah ei fâb ef:’r rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel drwy eu gorwagedd hwynt.
14A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oll a wnaeth efe: onid ydynt hwy’n scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?
15Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Iuda y teyrnasodd Zimri saith niwrnod yn Thirsa: a’r bobl oeddynt yn gwerssyllu yn erbyn Gibethon yr hon eiddo y Philistiaid.
16A chlybu’r bobl (y rhai oeddynt yn y gwerssyll) ddywedyd, Zimri a gyd fwriadodd, ac a darawodd y brenin: a holl Israel a goronasant Omri tywysog y llu yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel yn y gwerssyll.
17Yna Omri a aeth i fynu, a holl Israel gyd ag ef o Gibethon: ac hwy a warchauasant yn erbyn Thirsa.
18Pan welodd Zimri fod y ddinas wedi ei hennill, yna efe a ddaeth i balas y brenin: ac efe a loscodd dŷ r’ brenin ar ei vchaf a thân, ac efe a fu farw,
19Am ei bechodau ef yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur dyrgioni yng-olwg yr Arglwydd: gan rodio yn ffordd Ieroboam ac yn ei bechod’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
20A’r rhan arall o hanes Zimri ai gydfradwriaeth ef yr hwn a cydfwriadodd efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?
21Yna yr ymrannodd y bobl yn hanner: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginab iw osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.
22A’r bobl y rhai ar ôl Omri a oruchfygodd y bobl y rhai ar ôl Tibni 147 mab Ginah: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.
23Yn yr vnfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Iuda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mhlynedd: yn Thirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.
24Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer er dwy o dalentau arian: ac efe a adailadodd yn y mynydd, ac a alwodd enw yr ddinas yr hon a adailadase efe, ar ôl enw Semer arglwydd mynydd Samaria.
25Ond Omri a wnaeth ddyrgioni yng-ŵydd yr Arglwydd: ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai oi flaen ef.
26Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Ieroboam mab Nabat, ac yn ei bechod ef yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu: gan ddigio Arglwydd Dduw Israel drwy eu gorwagedd hwynt.
27A’r rhan arall o hanes Omri yr hyn a wnaeth efe, ai gadernid yr hwn a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.
28Ac Omri a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab ef a deyrnasodd yn i le ef.
29Canys Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bympthec ar hugain i Asa brenin Iuda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.
30Ac Ahab mab Omri a wnaeth yn waeth yng-olwg yr Arglwydd, na’r holl rai a oi flaen ef.
31Canys yscafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Ieroboam mab Nabat: ac efe a gymmerth yn wraig Iesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac efe a aeth, ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymmodd iddo ef.
32Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhy Baal, yr hwn a adailadase efe yn Samaria.
33Ac Ahab a wnaeth lwyn, ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel y rhai fuasent oi flaen ef.
34Yn ei ddyddiau ef Hiel y Betheleiad a adailadodd Iericho: drwy Abiram ei gyntafenedic y sylfaenodd efe hi, a thrwy Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn lefarase efe Iosua.6.26.drwy law Iosua mab Nun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.