Ezeciel 45 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLV.Bod pedair rhan nailltuol yn nhîr yr addewid, y gyntaf yn perthynu i’r offeiriaid a’r Deml. Yr ail i’r Lefiaid. Y drydedd i’r ddinas. A’r bedwaredd i’r tywysog. 10 Am bwysau a messurau iniawn. 13 Am flaen-ffrwyth, ac offrwm.

1A phan rannoch y tîr yn etifeddiaeth yr offrymmwch i’r Arglwydd offrwm cyssegredic o’r tîr, yn hyd pum mil ar hugain o hyd, a deng-mil o lêd: cyssegredic hynny yn ei holl derfyn o amgylch.

2O hyn wrth y cyssegr bump cant a phump cant yn bedair-ongloc oddi amgylch: a dêc cufydd a deugain yn faes pentre-fol iddo o amgylch.

3Ac o’r messur hwn y messuri bum mîl ar hugain o hŷd, a deng-mil o lêd, ac yn hwnnw y bydd cyssegrfa y cyssegr sancteiddiolaf.

4Hyn o’r tir fydd gyssegredic i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cyssegr, y rhai a nessânt i wasanaethu yr Arglwydd: ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gyssegrfa i’r cyssegr.

5A phum mîl ar hugain o hŷd, a deng-mil o lêd fydd hefyd i’r Lefiaid, y rhai a wasanaethant y tŷ yn etifeddiaeth vgain o stafelloedd iddynt.

6Rhoddwch hefyd bum mîl o lêd, a phum mil ar hugain o hŷd yn etifeddiaeth y ddinas, ar gyfer yr offrwm cyssegredic: i holl dŷ Israel y bydd

7Ac i’r tywysog o bob tu i’r offrwm cyssegredic, ac i etifeddiaeth y ddinas, ar gyfer yr offrwm cyssegredic, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas o du’r gorllewyn hyd y gorllewyn, ac o du’r dwyrain hŷd y dwyrain: a’r-hŷd ar gyfer vn o’r rhannau o derfyn y gorllewyn hyd derfyn y dwyrain.

8[Hyn] o’r tîr fydd iddo yn etifeddiaeth yn Israel, fel na orthrymmo fy nhywysogion fy mhobl i mwy, a’r arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

9Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, digon i chwi hyn dywysogion Israel, bwriwch ymmaith drawsder a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymmaith eich trethau oddi ar fy mhobl medd yr Arglwydd Dduw.

10Bydded gennwch bwysau iniawn, ac

25Yn y seithfed ar y pymthecfed dydd o’r mîs, offrymmed ar yr vchel-wyl saith niwrnod fel hyn: fel y pech-aberth, fel y poeth offrwm, ac fel y bwyd offrwm, ac fel yr olew

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help