Deuteronomium 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Am lofryddiaeth heb wybod pwy ai gwnaeth. 11 Am y fenyw a ddalier mewn rhyfel. 15 Ni cheir newidio braint y cyn-fab. 18 Cospedigaeth mab anufydd.

1Pan geffir wedi ei ladd o fewn y tîr, yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti iw etifeddu, yn farw yn y maes heb ŵybod pwy ai lladdodd:

2Yna aed dy henuriaid, a’th farn-wŷr allan, a mesurant hyd y dinasoedd y rhai o amgylch i’r lladdedig.

3A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig gymmeryd o henuriaid y ddinas honno anner gwartheg yr hon ni weithiwyd a hi, ni thynnodd dan iau.

4A dyged henuriaid y ddinas honno’r anner i ddyffryn garw, ’r hwn ni lafuriwyd, ac ni hauwyd ynddo: ac yno tor-fynyglant yr anner yn y dyffryn.

5A nessaed yr offeiriaid meibion Lefi, (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw ai etholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw’r Arglwydd: ac wrth eu barn hwynt, y derfydd pôb ymryson, a phôb plâ. )

6A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a ddeuant at y lladdedig a olchant eu dwylo uwch benn yr anner a dorr-fynyglwyd yn y dyffryn.

7Yna’r attebant, at y dywedant ni ollyngodd ein dwylo ni y gwaed hwn: ac nis gwelodd ein llygaid.

8Trugarhâ wrth bobl Israel y rhai a waredaist ô Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion ym mysc dy bobl Israel: a maddeuir y gwaed iddynt hwy.

9Felly y tynni ymmaith y gwaed gwirion o’th fysc, os ti a wnei’r iniawnder yngolwg yr Arglwydd.

10Pan elech i ryfel yn erbyn dy elynnion, a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di: a chaeth-gludo o honot gaeth-glud o honynt,

11A gweled o honot yn y gaeth-glud wraig brŷd-weddol, a’th fod yn fodlon iddi, ai chymmeryd it yn wraig:

12Yna dwg hi i fewn dy dŷ: ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd.

13A diosced ddillad ei chaethiwed oddi am deni a thriged yn dy dŷ di, ac ŵyled ei thâd, ai mam fîs o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di atti, ac y byddi ŵr iddi, a hithe fydd gwraig i ti.

14Ac oni byddi fodlon iddi, yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na wertha hi er arian: na chais elw o honi, am i ti ei darostwng hi.

15Pan fyddo i ŵr ddwy wragedd, vn yn gû, ac vn yn gâs, a phlanta o’r gu, a’r gâs feibion iddo ef: a bôd y mab cyntaf-anedic o’r gâs.

16Yna bydded yn y dydd y cynhyscaeddo efe ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf-anedic fab y gu o flaen mab y gasedic, yr hwn sydd gyntaf-anedic.

17Ond mab y gâs yr hwn sydd gyntafanedic a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y deuparth o’r hyn oll ar a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef, iddo braint yr anedigaeth gyntaf.

18Ond o bydd i ŵr fab cyndyn, ac anufydd heb iddo wrando a’r lais ei dâd, nac ar lais ei fam: a phan geryddant ef ni wrendu arnynt,

19Yna ei dâd ai fam a ymaflant ynddo, ac ai dygant ac henuriaid ei ddinas ef, ac i borth ei drig-fan.

20A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, ein mab hwn sydd gyndyn, ac anufydd heb iddo wrando ar ein llais, glŵth a meddwyn

21Yna holl ddynion ei ddinas ai llabyddiant ef a meini fel y byddo farw, felly y deleu di y drygioni o’th fysc di: a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

22Ac o bydd mewn gŵr bechod barnedigaeth angau, ai farwolaethu: yna y crogi di ef wrth bren.

23Na thriged ei gelen tros nôs wrth y pren, gan gladdu ti ai cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: o herwydd Galat.3.13.melldith Dduw a grogir: na haloga gan hynny dy dir, yr hwn y’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help