2.Corinthiaid 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Y mae yn eu hannog i sancteiddrwydd gan gofio iddynt addewidion Duw. 8 Yn ymescusodi am eu tristau hwynt. 13 Ac yn ddiolchgar yn coffau eu caredigrwydd hwynt i Titus.

1Am hynny, gan fôd i ni yr addewidion (annwylyd) ymlânhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd, ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.

2Derbyniwch ni, ni wnaethom gam i nêb, ni lygrasom nêb, nid yspeiliasom nêb.

3Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd, canys mi a ddywedais o’r blaen eich bôd yn ein calonnau ni, i gyd-farw, ac i gyd-fyw.

4Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych: y mae gennif orfoledd mawr ynoch: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra-llawen yn ein holl orthrymder.

5Canys wedi ein dyfod ni i Macedonia ni chai ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ni a orthrymmid o bôb parth, rhyfeloedd oddi allan, ac ofn oddi mewn.

6Eithr Duw, yr hwn a diddâna y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus

7Ac nid âi ddyfodiad ef yn vnic, ond hefyd â’r diddanwch y diddanwyd ef gennych chwi, pan fynegodd efe i ni eich awydd chwi, eich galar, eich annwyl-serch i mi, fel y llawenheais i yn fwy.

8Canys er i mi eich tristau chwi mewn lythyr, nid yw edifar gennif, er bôd yn edifar gennif; canys yr wyf yn gweled dristau o’r llythr hunnw chwi, er tros amser.

9Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau, ond am eich tristau i edifeirwch, canys tristau a wnaethoch yn dduwiol, fel na chawsoch niwed mewn dim gennym ni.

10 1.Pet.2.15. Canys duwiol dristwch a bair edifeirwch er iechydwriaeth diedifarus: eithr bydol dristwch a bair angeu.

11Canys wele, pa ofal ei faint a weithiodd hyn ynoch chwi? tristau o honochw yn dduwiol, îe, pa amddeffyn, îe, pa ddigofaint, îe, pa ofn, îe, pa chwant, îe, pa wŷnfydiaid, îe, pa ddial! ym mhôb peth yr ymddangosasoch i bod yn bur yn y peth hyn.

12O herwydd pa ham, er scrifennu attoch, ni o’i blegit ef a wnaethoedd y cam, nac o blegit yr hwn a gafodd y cam, ond er bôd yn eglur i chwi, ein gofal am danoch ger bron Duw.

13Am hynny ni a ddiddanwyd o achos eich diddanwch chwi, eithr llawenach o lawer oeddem am lawenydd Titus, am lonni ei yspryd ef gennych oll.

14Canys os gorfoleddais ddim wrtho am danoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bôb dim mewn gwirionedd, felly hefyd yr oedd ein gorfoleddiad ni wrth Titus yn gywir.

15Ac y mae ei galondid ef yn helaethach tu ag attoch, wrth gofio eich vfudd-dod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dychryn, y derbyniasoch ef.

16Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhôb dim.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help