1A bydd yn niwedd dyddiau i fynydd tŷ’r Arglwydd fod yn barod ym mhen y mynyddoedd: ac efe a dderchefir goruwch y brynnau: a phobloedd Esa.2.2. a ddylifant atto.
2Ie cenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, deuwch, a dringwn i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Iacob: ac efe a ddysc ini ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys o Sion yr aiff y gyfraith allan, a gair yr Arglwydd O Ierusalem.
3Ac efe a sarna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ym mhell, a thorrant eu cleddyfau yn geibiau, ai gwaiw-ffyn yn bladuriau, ac ni chyfyd cenhedlaeth gleddyf yn erbyn cenhedlaeth, Esa.2.4. ac ni ddyscant ryfela mwyach.
4Onid eisteddant bob vn dann ei win-wydden, a than ei ffigusbren, heb neb iw dychrynu: canys genau Arglwydd y lluoedd ai llefarodd.
5Canys yr holl bobloedd a rodiant bob vn yn enw ei dduw ei hun, a ninneu a rodiwn yn enw’r Arglwydd ein Duw byth, ac yn dragywydd.
6Yn y dydd hwnnw medd yr Arglwydd y casclaf y gloff, a chynhullaf y wascaredic, a’r hon a ddrygais.
7A gosodaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ym mhell yn genhedlaeth grêf: a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Sion o hyn allan byth.
8A thithe tŵr y praidd, castell merch Sion, hyd attat y daw, ac y nesâ’r arglwyddiaeth bennaf, teyrnas merch Ierusalem.
9Pa ham gan hynny y gweiddi di waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorudd, gan i ddolur dy ddal megis gwraig yn escor?
10Ymofidia, a griddfana merch Sion fel gwraig yn escor, o herwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes: ti a ei hyd Babilon, yno i’th waredir, yno’r achub yr Arglwydd di a law dy elyn.
11Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasclant i’th erbyn, gan ddywedyd: haloger hi, a gweled ein llygaid yn Sion.
12Ac ni ŵyddent hwy feddyl-fryd yr Arglwydd, ac ni ddeallhasant ei amcan: canys efe ai cascl hwynt fel yscubau i’r yscubor.
13Cyfot merch Sion, a dyrna, canys gosodaf dy gyrn yn haiarn, a’th garnau yn brês fel y drylliech bobloedd lawer, a chyssegraf i’r Arglwydd eu golud hwynt, ai cyfoeth i lywydd yr holl ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
