1Gwrando ô fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Ioseph fel defaid: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd ar y Cerubiaid.
2Cyfot dy nerth o flaen Ephraim, Beniamin a Manasses, a thyret yn iechydwriaeth i ni.
3Dychwel ni ô Dduw, a llewyrcha dy wyneb, a ni a achubir.
4O Arglwydd Dduw’r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?
5Gwnaethost iddynt fwytta bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau fesur mawr.
6Gosodaist ni yn gynnen i’n cymmydogion, a’n gelynnion a’n gwatwarent yn eu mysc eu hun.
7O Dduw’r lluoedd dychwel ni, a thywynna dy wyneb, ac ni a achubir.
8Mudaist win-wydden o’r Aipht, bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
9Arloesaist oi blaen, a pheraist i’r gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tîr.
10Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: ai changhennau cedr-wŷdd rhagorol.
11Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, ai brig hyd yr afon.
12Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio y ffordd grawn hi?
13Y baedd o’r coed ai turriodd, a bwyst-fil y maes ai pôrodd.
14O Dduw’r lluoedd dychwel attolwg: edrych o’r nefoedd a chenfydd: ac ymwel a’r win-wydden hon,
15A’r winllan yr hon a blannodd dy ddeheu-law, ac a’r planhigin a gadarnheaist i ti dy hun.
16Lloscwyd hi â thân, thorwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
17Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fab dyn a gadarnheaist i i ti dy hun.
18Ac ni chiliwn ni oddi wrthit ti, bywhâ ni, a ni a alwn ar dy enw.
19O Arglwydd Dduw’r lluoedd trô ni: llewyrcha dy wyneb, a ni a achubir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
