Caniadau Salomon 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Yr eglwys yn credu yng-Hrist, ac yn ymsicrhau oi drugaredd. 3 A Christ oi drugaredd yn ei gweled hithe trwy rym ei waed ef megis yn riain hawddgar.

1Fy anwylyd aeth i wared iw ardd, i’r pêr aroglaidd welau gerddi, i ymborth yn y gerddi, ac i gasclu lili.

2Myfi eiddo fy anwylyd, a’m anwylyd eiddo finne, ’r hwn a ymbortha ym mysc y lili.

3Teg ti fyng-hyfeilles megis Thyrza, gweddus megis Ierusalem, ofnadwy megis rhai baneroc.

4Troa dy lygaid oddi wrthif, canys hwynt a’m gorchfygasant, dy wallt fel mintai o eifr, y rhai a ymlyfnhauasant yn Gilead.

5Dy ddannedd fel mintai o ddefaid y rhai a ddaethant i fynu o’r olchfa: y rhai ydynt bob vn yn dwyn dau oen, ac heb yn ddi-heppil yn eu mysc.

6Dy arleisiau rhwng dy lywethau fel darn pom-granad.

7Tri vgain hwy y brenhinesau, a’r gordderch-wragedd yn bedwar vgain: a’r llangcesau heb rifedi.

8Un hi fyng-holomen, fy mherffaith vnic ei mam hi, cû hi gan yr hon ai hescorodd: y merched ai gwelsant, ac a ddywedasant, gwyn ei byd: y brenhinesau a’r gordderch wragedd ai canmolasant.

9Pwy hon a welir fel y wawr? yn deg fel y lleuad, yn bûr fel yr haul, yn ofnadwy fel y rhai baneroc?

10Euthum i wared i berllan y cnau, i edrych am ir-goed y dyffryn, i weled a flodeuase y win-wydden a flodeuase y Pom-granadau.

11Heb wybod o honof i’m gosododd fy enaid ar gerbydau fy mhobl foneddigaidd

12Dychwel, dychwel y Sulamithes, dychwel, dychwel ac ni a edrychwn arnat: beth a welwch chwi yn y Sulamithes? megis tyrfa gwersylloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help