1Gwrandewch arnafi ddilyn-wŷr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd edrychwch ar y graig i’ch naddwyd, ac ar geudod y ffôs i’ch cloddiwyd
2Edrychwch ar Abraham eich tâd, ac ar Sara a’ch hescorodd, canys ei hunan y gelwais ef, yna y bendithiais, ac yr amlheuais ef,
3Am hynny yr Arglwydd a gyssura Sion, efe a gyssurodd ei holl ddinistr hi, gosododd hefyd ei hanialwch hi fel paradwys, ai rhossydd fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd ac hyfrydwch, moliant a llais cân.
4Gwrandewch arnaf, fy mhobl, clust-ymwrandewch â mi fyng-henedl, canys cyfraith a aiff allan oddi wrthif, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd.
5Agos yw fyng-hyfiawnder, fy iechydwriaeth aeth allan, fy mrechiau a farnant y bobloedd: ynysoedd a obeithiant ynof, ac a ymddyriedant fy nerth.
6Derchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaiar issod, canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaiar a heneiddia fel dilledyn, ai phresswyl-wŷr yr vn modd fyddant meirw: ond fy iechydwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.
7Gwrandewch arnaf y rhai a adwaenoch gyfiawnder, pobl a’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch warthrudd dyn, ac nac arswydwch rhac eu coddiant.
8Canys y pryf ai bwyttu fel dilledyn, a’r gwyfyn ai hyssa fel gwlân: eithr fyng-hyfiawnder mau fi a fydd yn dragywydd, a’m iechydwriaeth hŷd yn oes oesoedd.
9Deffro, deffro fraich yr Arglwydd gwisc nerth, deffro fel y dyddiau gynt, oesoedd tragywyddol: onid ti’r hwn a dorraist y balch, a archollaist y ddraig?
10Onid ti’r hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr, yr hwn a osodaist ddyfnderoedd y môr yn ffordd fel yr ele y gwaredigion trwodd.
11Felly y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwynt a ddeuant i Sion â chân, ac â llawenydd tragywyddol yn eu pennau, goddiweddant lawenydd, ac hyfrydwch: gofid a griddfan a ffoant ymmaith.
12Myfi myfi yr hwn a’ch diddâna chwi, pwy ti a ofni rhac dyn fydd marw? a rhac mab dyn a roddir fel gweltyn?
13Ac yr anghofiast yr Arglwydd dy wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaiar, ac yr ofnaist bob dydd yn wastad rhac llid y gorthrymmudd, pan ddarpare i ddinistrio? etto pa le llîd y gorthrymudd?
14Y carcharor sydd yn bryssio i gael ei ollwng yn rhydd fel na byddo efe farw yng-harchar, ac na phallo ei fara ef.
15Myfi hefyd yr Arglwydd dy Dduw yr hwn a barthodd y môr pan ruodd ei donnau: ei enw Arglwydd y lluoedd.
16Gosodais hefyd fyng-eiriau yn dy enau, ac â chyscod fy llaw i’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaiar, ac y dywedwn wrth Sion, fy mhobl mau fi ti.
17Deffro, deffro, cyfot Ierusalem, yr hon a yfaist o law’r Arglwydd gwppan ei lidiawgrwydd ef: yfaist sugnaist waddod y cwppan erchyll.
18Nid arweinudd iddi o’r holl feibion a escorodd, ac nid a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd.
19Y ddau beth hyn a ddigwyddasant it, pwy a ofidia trosot, dinistr, a destruw, a newyn, a chleddyf, bwy i’th gyssuraf?
20Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol fel ŷch gwyllt magl, yn llawn o lidiawgrwydd yr Arglwydd cherydd dy Dduw.
21Am hynny gwrando fi yn awr, ô druan, yr hon a feddwodd hefyd, ac nid wîn.
22Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, sef dy Dduw di a ddadle ei bobl: wele cymmerais o’th law y cwppan erchyll, sef gwaddod cwppan fy llidiawgrwydd ni chwanegi yfed mwy.
23Eithr rhoddaf ef yn llaw dy orthrym-wŷr, y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, gostwng fel yr elom trosot a thi a osodaist dy gorph fel daiar, ac fel heol i’r rhai a elent trosto ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.