Exodus 34 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIIII.1 Duw yn peri i Moses wneuthur llechau newydd. 6 Enwau Duw. 9 Moses yn ymbil ar fyned o Dduw gyd a’r bobl. 11 Duw yn addo iddynt wlad Canaan: ac yn eu rhybyddio rhac gau-dduwiaeth y bobl hynny. 18 Am wyl y bara croiw. 19 y cyntafanedic. 21 y Sabboth. 12 Gwyl yr wythnosau a gwyl y pebyll. 26 y blaen ffrwythau. 28 ympryd Moses. 29 discleirdeb ei wyneb ef. 33 A’r llenn tros ei wyneb.

1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, nâdd it ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a scrifennaf ar y llechau y geiriau y rhai oeddynt ar y llechau cyntaf y rhai a dorraist.

2A bydd barod erbyn y borau: a thyret i fyny yn forau i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar benn y mynydd.

3Ond na ddeued neb i fynu gyd a thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

4Yna Moses a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fâth y rhai cyntaf, ac a gyfododd yn forau, ac a aeth i fynydd Sinai fel y gorchymynnase yr Arglwydd iddo ef: ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5A’r Arglwydd a ddescynnodd mewn niwl, ac a safodd gyd ag ef yno: ac a gyhoeddodd Iehofa erbyn henw.

6Canys yr Arglwydd aeth heb law ei wyneb ef, ac a lefodd Iehofa, Iehofa y Duw trugarog, a gras-lawn, hwyr frydic i ddig, ac aml o drugaredd, a gwirionedd.

7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd gan faddeu anwiredd, camwedd, a phechod: ac heb gifrif yn gyfiawn, yr hwn Deut.5.9. Jer.32.18.a ymwel ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blā y plā hyd y drydedd, a’r bedwaredd

8Yna Moses a fryssiodd: ac a ymgrymmodd tua yr llawr, ac a addolodd,

9Ac a ddywedodd os cefais yn awr ffafor yn dy olwg ô Arglwydd, eled fy Arglwydd attolwg yn ein plith ni: er y rhai hyn yn bobl war-galed, er hynny ti a faddeui ein hanwiredd, a’n pechod, ac a’n etifeddi ni.

10Yntef a ddywedodd Deut.5.2.wele fi yn gwneuthur cyfammod yng-ŵydd dy holl bobl, gwnaf ryfeddodau y rhai ni wnaed yn yr holl dîr, nac yn yr holl genhedloedd: a’r holl bobl y rhai yr wyt ti yn eu mysc a gânt weled waith yr Arglwydd, mai ofnadwy yr hyn a wnaf a thi.

11Cadw yr hyn a orchymynnais it heddyw: wele mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid.

12A Deut.7.12.chadw arnat rhac gwneuthur cyfammod a phresswyl-wyr y wlad yr hon yr wyt yr ei di iddi: rhac eu bod yn fagl yn dy blith.

13Eithr derniwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt: a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14Canys ni chei ymgrymmu i dduw dieithr o blegit yr Arglwydd Exod.20.5. Exod.23.32. Deut.7.2.eiddigus ei enw: Duw eiddigus efe.

15[Gwilia] rhac it wneuthur cyfammod a phresswyl-wyr y tîr: ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu iw duwiau, a’th alw di, ac i tithe fwytta oi haberth.

16A chymmeryd o honot oi 1.Bren.11.2. 1 Cor.8.10.merched i’th feibion: a phutteinio oi merched ar ol eu duwiau hwynt.

17Na wna it dduwiau tawdd.

18Cadw ŵyl y bara croiw, saith niwrnod y bwytei fara croiw fel y gorchymynnais it, yn yr amser gosodedic ar y mîs Abib: o blegit ym Exod.13.4|EXO 12:7. 22.29|EXO 22:29. Ezec.44.30.mis Abib y daethost allan o’r Aipht.

19Eiddof fi yw pob cyn-fab: a phob cyntafanedic o’th anifeiliaid, yn eidionnau, ac yn ddefaid a gyfrifir.

20Ond y cyntaf-anedic i assyn a brynni di ag oen, ac oni phrynni torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedic o’th feibion, ac nac ymddangosed ger fy mron yn wag-law.

21Chwe diwrnod y gweithi, ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: yn amser aredic, ac yn y cynhaiaf y gorphywysi.

22Cadw Exod.23.16.it hefyd ŵyl yr wythnosau ddechreu y cynhaiaf gwenith: a gŵyl y cynnull ddiwedd y flwyddyn.

23Tair gwaith yn y flwyddyn: yr ymddengys dy holl wrwyaid ger bron yr Arglwydd Iôr, Duw Israel.

24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy frô di: ac ni chwennych neb dy dîr di pan elech i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.

25Nac offrymma waed fy aberth gyd a bara lefeinllyd: ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasc tros nos hyd y borau.

26Dŵg y goref o flaen-ffrwyth dy dir, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw: Exod.14.21.na ferwa fynn yn llaeth ei fam.

27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, scrifenna it y geiriau hynn: o blegit Exod.24.18. Deut.14.21.wrth destiolaeth y geiriau hynn y gwneuthum gyfammod a thi, ac ag Israel.

28Felly efe a fu yno gyd a’r Arglwydd ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos heb fwytta bara, ac heb yfed dwfr: tra y scrifennodd efe ar y llechau Deut.4.13.eiriau y cyfammod y dec gair.

29A phan ddaeth Moses i wared o fynydd Sinai, a dwy lech y destiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i wared o’r mynydd: ni wydde Moses i groen ei wyneb ddisgleirio, wrth lefaru o honaw ag ef.

30Yna Aaron a holl feibion Israel a edrychasant ar Moses, ac wele groen ei wyneb ef yn discleirio: 2.Cor.3.7.ac ofnasant nessau atto.

31A Moses a alwodd arnynt, ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa, a ddychwelasant atto: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32Ac wedi hynny nessaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynnodd iddynt yr hynn oll a lefarase yr Arglwydd ym mynydd Sinai.

33Pan ddarfu i Moses lefaru wrthynt: yna efe 2.Cor.3.13.a roddes lenn gudd ar ei wyneb.

34A phan ddele Moses ger bron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynne ymmaith y llenn gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddele efe allan y llefare wrth feibion Israel yr hynn a orchymynnid iddo.

35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, bod croen wyneb Moses yn discleirio: am hynny Moses a roddodd trachefn y llenn gudd ar ei wyneb hyd oni ddele i lefaru wrth Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help