1A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, 1.Sam.31.1.a ffoawdd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, a hwynt a gwympasant yn archolledic ym mynydd Gilboa.
2A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion ef: a’r Philistiaid a laddasant Ionathan, ac Abinadab, a Malchisua meibion Saul.
3A’r rhyfel a drwmhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu ai cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.
4Yna y dywedodd Saul wrth arweinudd ei arfau ef, tynn dy gleddyf, a gwâna fi ag ef, rhac dyfod y dienwaededigion hyn, a’m gwatwar i: ond arweinudd ei arfau ef nid oedd fodlō, canys ofnodd yn ddirfawr: yna y cymmerth Saul y cleddyf, ac a syrthiodd arno ef.
5Pan welodd arweinudd ei arfau ef, farw o Saul: yna y syrthiodd yntef hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.
6Felly y bu farw Saul ai dri mâb ef, ai holl dŷ-lwyth a fuant feirw yng-hyd ag ef.
7Pan welodd holl wŷr Israel y rhai yn y dyffryn fel y ffoasent hwy, ac fel y buase marw Saul, ai feibion: yna hwy a ymadawsant oi dinasoedd, ac a ffoasant: a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt hwy.
8A thrannoeth pan ddaeth y Philistiaid i ddiosc y lladdedigion, a chael o honynt hwy Saul, ai feibion yn feirw ym mynydd Gilboa,
9Pan ddioscwyd ef yna y cymmerasant ei benn ef, ai arfau, ac ai hanfonasant i wlâd y Philistiaid o amgylch i ddangos iw delwau, ac i’r bobl.
10A hwy a osodasant ei arfau ef yn-nhŷ eu duwiau hwynt: ai bengloc a grogasant hwy yn-nhŷ Dagon.
11Pan glybu holl Iabes Gilead yr hyn oll a wnaethe y Philistiaid i Saul,
12Yna pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymmerasant gorph Saul, a chyrph ei feibion ef, ac ai dugasant i Iabes, ac a gladdasant eu hescyrn hwynt dann y dderwen yn Iabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.
13Felly y bu farw Saul am ei gamwedd yr hwn a wnaethe efe yn erbyn yr Arglwydd, 1.Sam.15.23.[sef] yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwase efe, ac am iddo geisio ymgynghori a dewines.
14Ac heb ymgynghori a’r Arglwydd, 1.Sam.28.9.am hyn y lladdodd ef, ac y trôdd y frenhinaeth i Ddafydd fab Isai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
