1Wrth afonydd Babilon yr eisteddasom, ac yno’r ŵylasom pan feddyliasom am Sion.
2Ar yr helyg oi mewn y crogasom ein telynau.
3Yna pan ofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân a llawenydd yn ein griddfan o ganiadau Sion:
4Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?
5Os anghofiaf di Ierusalem, anghofied fy neheu-law
6Glyned fy nhafod wrth daflod fyng-enau oni chofiaf di: oni chodaf Ierusalem goruwch yn benn llawenydd i mi.
7Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Ierusalem: y rhai a ddywedent, dinoethwch, dinoethwch hi hyd ei sylfaen.
8Oh anrhaithiedic ferch Babilon, gwyn ei fyd os dalo i ti fel y telaist i ninnau.
9Gwyn ei fyd, a gymmero, ac a darawo dy blant wrth y meini.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
