Genesis 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Adailadaeth twr Babel. 7 Cymmysciad yr ieithoedd. 10 Hiliogaeth Sem, hyd Abraham.

1A’r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o vn ymadrodd.

2Ac wrth fudo o honynt o’r dwyrain, y cawsant wastadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.

3Ac a ddywedasant bôb vn wrth ei gilydd, deuwch gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly ’r ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4A dywedasant, moeswch, adailadwn i ni ddinas, a thŵr, ai nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb yr holl ddaiar.

5Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas, a’r tŵr, y rhai a adailiade meibion dynion.

6A dywedodd yr Arglwydd, wele y bobl yn un, ac vn iaith iddynt oll, a dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwystr arnynt am ddim oll ar a amcanasāt ei wneuthur.

7Deuwch descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallo vn iaith ei gilydd

8Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.

9Am hynny y gelwir ei henw hi Babel, o blegit yno y cymmyscodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.

10Dymma genhedlaethau Sem, Sem fâb can-mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi ’r diluw.

11A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad bump can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

12Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlhynedd, a’r hugain, ac a genhedlodd Selah.

13Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah dair o flynyddoedd, a phedwar can mlhynedd: ac a genhedlodd feibion, a merched.

14Selah hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber dair o flynyddoedd a phedwar can mlhynedd: ac a genhedlodd feibion, a merched.

16Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddêc ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlhynedd ar hugain, a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18 1.Cron.1.19. Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu,

19A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd, a deucan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

20Reu hefyd a fu fyw ddeu-ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tarah.

25A Nachor fu fyw wedi iddo genhedlu Tarah onid vn flwyddyn chwech ugain mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

26Tarah 1.Cron.1.26. Iosua.24.2.hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27A dymma genedlaethau Tarah: Tarah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran, a Haran a genhedlodd Lot.

28A Haran a fu farw o flaen Tarah ei dâd, yngwlad ei anedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

29Yna y cymmerodd Abram, a Nachor iddynt wragedd, henw gwraig Abram Sarai: a henw gwraig Nachor Milcha merch Hanan tâd Milcha, a thâd Iischa.

30A Sarai oedd amhlantadwy heb plentyn iddi.

31A Thara a gymmerodd Abram ei fâb, a Lot fâb Haran, mâb ei fâb, a Sarai ei waudd ef gwraig Abram ei fâb ef, a hwynt a aethant allan yng-hyd o Iosua.24.2.|JOS 24:2. Nehe.9.7.|NEH 9:7. Act.7.4.Ur y Caldeaid, gan fyned tua thir Canaan, ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32A dyddiau Tarah oeddynt bump o flynyddoedd, a deucan mlhynedd, a bu farw Tarah yn Haran.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help