Iaco 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.1 Ymma y mae yn gwahardd derbyn wyneb, sef ystyried mewn neb yr hyn sydd. fydol, megis cyfoeth cenedl a’r cyfryw. 8 Ac y mae yn erchi bod yn garedigol, ac yn drugarog. 14 Ac na ymhonner ffydd lle ni bo gweithredoedd. 17 Canys ffydd farw yw yr hon sydd heb weithredoedd da.

1Fy-mrodyr Leuit.19.15.|LEV 19:15. dihar.24.24.na fydded gennych chwi ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist gogoueddus yng-hyd â derbyn wyneb.

2O blegit os daw i mewn i’ch cynnulleidfa chwi ŵr yn arwen modrwy aur ac mewn dillad gwychion, a dyfod gwr tlawd hefyd mewn dillad gwaelion,

3Ac edrych o honoch ar y nêb sydd yn arwen dillad gwychion, a dywedyd wrtho: eistedd di ymma mewn lle da: a dywedyd wrth y tlawd, eistedd di yna, ne eistedd ymma islaw fy stôl droed i.

4Ond ydych chwi ynoch eich hunain yn barnu, ac waethbwyd chwi yn farnwŷr meddyliau drwg?

5Gwrandewch fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn, i fôd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac i fôd yn etifeddion i’r deyrnas, yr hon a addawodd efe i’r rhai ai carant ef?

6Chwithau ydych yn amherchi y tlawd, onid yw y cyfoethogion yn gwneuthur yn drahaus â chwi, ac ond ydynt hwy yn eich llusco chwi ger bron y gorsedd-feingciau?

7Ond ydynt hwy yn cablu yr enw rhagorol trwy yr hwn y cyfenwir chwi?

8Os cyflawnwch chwi y frenhinol gyfraith ar ôl yr scrythur: Math.22.39.câr dy gymydog fel ty di dy hun, da y gwnewch.

9Eithr os derbyniwch chwi wyneb yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yr ydych yn cael cerydd gan y gyfraith fel trosedd-wyr.

10Canys Leuit.15.19.pwy bynnag a gatwo’r gyfraith ei gyd, ac a ballo mewn vn y mae efe yn euog o’r cwbl.

11Oblegit y neb a ddywedodd, na odineba, a ddywedodd hefyd, na ladd: os ti ni odinebi, ac etto a leddi, yr wyt yn drosseddudd y gyfraith.

12Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhydd-did.

13Canys barn heb drugaredd fydd i’r nêb ni wnêl drugaredd, ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.

14Pa fudd fy mrodyr o dywed nêb fod ganddo ffydd, ac hêb fod ganddo weithredoedd? a ddichon y ffydd honno ei gadw ef?

15O blegit Luc.3.11. 1.ioan.3.17.os bydd brawd ne chwaer yn noeth, ac eisieu bennyddol ymborth,

16A dywedyd o vn o honoch wrthynt, ewch mewn hedd, ymdwymnwch, ac ymlenwch, ac etto heb roddi iddynt anghenrheidiau’r corph, pa lês fydd?

17Felly ffydd oni bydd iddi weithredoedd marw ydyw ynddi ei hun.

18Eithr rhyw vn a ddywed: ty di, ffydd sydd gennit, minnef gweithredoedd sy gennif: dangos i mi dy ffydd wrth dy weithredoedd, ac myfi a ddangosaf i ti fy ffydd wrth fyngweithroedd.

19Credu yr wyt ti mai vn Duw sydd: da yr wyt yn gwneuthur, y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn crynu.

20Eithr a fynni di wybod, ô dy di ofer-ddyn, mai marw yw’r ffydd yr hon sydd heb weithredoedd.

21Onid trwy ffydd y cyfiawnwyd Abraham ein tâd ni, pan offrymmodd efe Gen.22.10.Isaac ei fab ar yr allor?

22Ef a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd y perffeithiwyd y ffydd.

23A’r scrythur a gyflawnwyd yr hon a ddywed: Gen.15.6.|GEN 15:6. rhuf.4.3.|ROM 4:3. galath.3,6.credodd Abraham i Dduw, a chyfrifed iddo yn lle cyfiawnder: a galwyd ef yn gyfaill i Dduw.

24Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn vnic.

25Yr vn ffunyd Iosua.2.1.Rahab y buttain, onid o weithredoedd y cyflawnhawyd hi, pan dderbynniodd hi y cēnadau, a’u danfon ymmaith ffordd arall?

26Canys megis y mae’r corph heb yr yspryd yn farw: felly ffydd heb weithredoedd marw ydynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help