1.Corinthiaid 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Yng-hylch traethu iaith anheallgar, a phrophwydo mewn iaith eglur, er lles-hâd i’r gynnulleidfa, a’r rhagoriaeth rhwng dieithr ieithoedd, a phrophwydoliaeth, 30 trefn yng-hylch pregethu.

1Dilynwch gariad, a deisyfiwch ysprydol, ac yn fwyaf fel y prophwydoch.

2Canys yr hwn a lefaro â thafod nid wrth ddynion y mae yn llefaru, onid wrth Dduw: canys nid oes neb yn gwrando, er hynny yn yr yspryd y mae efe yn dywedyd dirgeledigaethau.

3Eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adailad, ac er cyngor a chyssur.

4Yr hwn sydd yn llefaru mewn tafod sydd yn ei adailadu ei hunan, eithr yr hwn a brophwydo sydd yn adailadu yr eglwys.

5Mi a fynnwn pe llefarech chwi oll â thafodau ond yn fwy pe prophwydech: canys mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo, nâ’r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddi eithr iddo gyfieithu, fel y gallo y gynnulleidfa dderbyn adailadaeth.

6Ac yr awr hon frodyr, os deuaf attoch gan lefaru amrafael dafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni ymddiddanaf â chwi trwy weledigaeth, neu trwy ŵybodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth?

7Hefyd pethau dianadl pan roddant sain, pa vn bynnac ai chwibanogl, ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwyddir beth a genir ar y chwibanogl, neu ar y delyn?

8Canys os yr vdcorn a rydd lais anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9Felly chwithau oni ymddiddenwch trwy dafodiaith gydnabyddus, pa wedd y deallir y peth a ddywedir, canys chwi a fyddwch yn siarad i’r awyr?

10Y mae cymmaint o leisiau (fel y digwydd) yn y byd, ac nid oes vn yn

11Am hynny oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf estron-iaithus i’r vn a fyddo yn ymddiddan: a’r neb a ymddiddano ddieithriaithus i minne.

12A chwithau gan eich bod mewn awydd i ysprydoliaethau, ceisiwch ragori tu ag at adailadaeth yr eglwys.

13Am hynny gweddied y tafod-wr ar allu o honaw ef gyfieithu.

14Os myfi a weddiaf â thafod, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall heb ffrwyth

15Beth gan hynny yw’r gweddiaf â’r Yspryd, a gweddiaf â’r deall hefyd: canaf â’r Yspryd, a chanaf â’r deall hefyd.

16Canys pan fendigech trwy yr Yspryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn lle yr annyscedic amên, ar dy ddodiad diolch, gan na’s gŵyr beth a ddywedi?

17Canys da yr wyt ti yn diolch, onid nid yw y llall yn cael ei adailadau.

18Yr ydwyf yn diolch i’m Duw fy mod yn llefaru â thafodau yn fwy nâ chwi oll.

19Ond er hynny gwell gennif ddywedyd yn yr eglwys bump gair a’m deall, er mwyn dyscu eraill, na dêc mil o eiriau mewn tafod

20O frodyr, na fyddwch Math.18.3.fechgyn mewn deall, eithr mewn drygioni byddwch blant, ond mewn deall byddwch berffaith.

21Yn y ddeddf y mae yn scrifennedic, o herwydd Esay 28.11.|ISA 28:11. Ierem.5.15.|JER 5:15. Ezech.3.6.trwy rai o ddieithr dafodiaeth, ac â gwefusau estronol yr ymddiddanaf â’r bobl hyn, ac er hynny ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

22Am hynny tafodau ydynt yn arwydd ni i’r rhai sy yn credu, ond i’r rhai anghredadwy: eithr prophwydoliaeth nid i’r angredadwy, eithr i’r rhai sydd yn credu.

23Am hynny pan ddêl yr eglwys yng-hyd oll, a phawb yn llefaru â thafodau, a dyfod i mewn rai annyscedic neu anghredadwy, oni ddywedant mai ynfydu yr ydych?

24Eithr pe prophwyde pawb, a dyfod i mewn o anghredadyn ne annyscedic, efe a argyoeddid gan bawb, a fernid gan bawb.

25Ac felly yr amlygid dirgeloedd ei galon, ac felly y syrthie ar ei wyneb, ac yr addole Dduw, ac y dywede mai Duw sydd ynoch yn ddiau.

26Beth gan hynny yw frodyr? pan ddeloch yng-hyd, pob vn sydd ganddo psalm, sydd ganddo athrawiaeth, sydd ganddo dafodiaeth, sydd ganddo weledigaeth, sydd ganddo gyfieithiad, gwneler pob peth er adailadaeth.

27Os llefara neb â thafod bob yn ddau, neu o’r mwyaf yn dri, a ar glych, a chyfieithed vn.

28Oni bydd lladmerudd, tawed yn yr eglwys, dyweded rhyngddo ag ef ei hun, ac â Duw

29Llefared y prophwydi ddau neu dri, a barned y llaill.

30Ac os datguddir yn eistedd tawed y cyntaf.

31Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob vn ac vn, fel y dysc o pawb, ac y cyssurer pawb.

32Ac ysprydoedd y prophwydi sy ddarostyngedic i’r prophwydi.

33Canys nid ydyw ymryson, eithr tangneddyf: fel yn holl eglwysydd y sainct

34 1.Tim.2.11. Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi, am na chanihadwyd iddynt lefaru, ond ymddarostwng, Gen.3.16.megis ac y mae y gyfraith yn dywedyd.

35Ac os mynnant ddyscu dim, ymofynnant â’u gwyr gartref, o blegit brwnt yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.

36A’i oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw neu a’i attoch chwi yn vnic y daeth efe?

37Os ydyw neb yn tybied ei fod yn brophwyd, ne yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, eu bod yn orchymynnion yr Arglwydd.

38Eithr od yw neb heb ŵybod, bydded heb ŵybod.

39Am hynny frodyr, byddwch awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau

40Gwneler pob beth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help