Exodus 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Teulu Iacob yn yr Aipht. 8 Pharao newydd yn eu gorthrymmu hwynt 15 y byd-wragedd yn arbed meibion yr Hebræesau. 20 Duw yn ymgeleddu y byd-wragedd.

1Dymma henwau meibion Israel y rhai a ddaethant i’r Aipht: gyd ag Iacob y daethant bôb vn ai deulu.

2Ruben, Simeon, Lefi, ac Iuda,

3Issachar, Zabulon, a Beniamin.

4Dan, a Nephthali, Gad, ac Aser.

5A’r holl eneidiau a ddaethent allan o gorph Iacob oeddynt Gen.46.18.|GEN 46:18. Deut.10.22ddeng-henaid a thrivgain: ac Ioseph oedd yn yr Aipht.

6Ac Ioseph a fû farw, ai holl frodyr, a’r holl oes honno.

7A Act.7.17.meibion Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhausant hefyd, a chryfhausant yn ddirfawr odieth: a’r wlâd a lawnwyd o honynt hwy.

8Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aipht: yr hwn nid adnabuse mo Ioseph.

9Ac efe a ddywedodd wrth ei bôbl: wele bobl meibion Israel yn amlach ac yn gryfach na nyni.

10Deuwch, gwnawn yn gall i’w herbyn: rhac amlhau o honynt, a phan ddigwyddo rhyfel ymgydio o honynt a’n caseion, a rhyfela i’n herbyn a myned i fynu o’r wlâd.

11Am hynny y gosodasant feistred gwaith iw gorthrymmu ai clûd hwynt: a a adailadasant i Pharao ddinasoedd tressorau Pithom a Raamses.

12Ond fel y gorthrymment hwynt, felly’r amlhaent, ac y cynnyddent: a chyfyng oedd arnynt o herwydd meibion Israel.

13A’r Aiphtiaid a gaethiwasant feibion Israel yn dôst.

14A gwnaethant eu henioes hwynt yn chwerw drwy y gwasanaeth caled mewn clai, ac mewn priddfain, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; gyd ai holl wasanaeth yr hyn a ofynnasant ganddynt yn dôst.

15A brenin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebræesau: o ba rai henw vn Siphra, ac henw’r ail Puah.

16Ac efe a ddywedodd, pan fyddoch fydwragedd i’r Hebræesau, a gweled o honoch eu hescoredd-le: os mab fydd lleddwch ef, ond os merch bydded hi fyw.

17Er hynny y byd-wragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedase brenin yr Aipht wrthynt: eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18A’m hynny brenin yr Aipht a alwodd am y byd-wragedd, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham y gwnaethoch y peth hyn’: ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19A’r byd-wragedd a ddywedasant wrth Pharao nad yr Hebræesau fel yr Aiphtiesau: onid eu bôd hwynt yn fywioc, ac yr escorent cynn dyfod byd-wraig attynt.

20A’m hynny y bu Duw dda wrth y byd-wragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21Ac o herwydd i’r byd-wragedd ofni Duw: yntef a wnaeth deuluoedd iddynt hwythau.

22A Pharao a orchymynnodd iw holl bobl gan ddywedyd: pob mâb a’r a enir bwriwch ef i’r afon, ond cedwch yn fyw bob merch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help