1Wedi hynny y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
2Ha fab dŷn dywet wrth dywysog Tyrus, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: am falchio dy galon, a dywedyd, Duw fi, presswylio’r ydwyf eisteddfa Dduw yng-hanol y môr a thi yn ddŷn, ac nid yn Dduw, er rhoddi o honot dy galon fel calon Duw.
3Wele ddyn ddoethach nâ Daniel, ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthit.
4Trwy dy ddoethineb, a’th ddeallgarwch y darperaist gyfoeth it, îe y darperaist aur, ac arian yn dy dryssorau.
5O amlder dy ddoethineb yn dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a’th galon a falchiodd o herwydd dy gyfoeth.
6Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am osod o honot dy galō fel calō Duw:
7O herwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn gedyrn ddieithriaid y cenhedloedd a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb: ac halogant dy loiwder.
8Descynnant di i’r ffos, a byddi farw ynghanol y môr, o farwolaeth archolledic.
9Gan ddywedyd a ddywedi a flaen dy leiddiad, Duw fi, a thi yn ddyn, ac nid yn Dduw yn llaw dy artholludd?
10Byddi farw a farwolaeth y dienwaededic, yn llaw dieithriaid, canys myfi ai dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf trachefn gan ddywedyd:
12Cyfot fab dŷn alar-nad a’m frenin Tyrus, a dywet wrtho ef, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn a degwch:
13O fewn eden gardd Dduw’r oeddit, pob maen gwerth-fawr a’th orchguddie di: Sardius, Tophas, ac Adamant, Turcas, Onix, ac Iaspis: Saphir, Rubi, Smaragdus hefyd, ac aur: gwaith dy dympanau, a’th bibellau, a baratoiwyd ar y dydd i’th greuwyd.
14Cerub eneinioc ti yn gorchguddio, felly i’th roddaswn: oeddit yn sanctaidd fynydd Duw: ymrodrit yng-hanol cerric tanllyd.
15Perffaith ti yn dy ffyrdd, er y dydd i’th greuwyt hyd oni chaed ynot anwiredd.
16Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, fel y pechaist: am hynny i’th archollaf o fynydd Duw, ac i’th ddifethaf di Gerub yn gorchguddio, o ganol y cerric tanllyd.
17Balchiodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb o herwydd dy loiwder: bwriais di i’r llawr, o flaen brenhinoedd i’th osodais i graffu arnat.
18O amlder dy anwiredd, y llygraist dy gyssegr ag anwiredd dy farchnadaeth: am hynny y dygais dân allan o’th ganol, hwnnw a’th yssodd: a rhoddais di yn lludw ar y ddaiar, yng-olwg pawb a’r a’th welant.
19Y rhai a’th adwaenent oll ym mysc y cenhedloedd a ryfeddant wrthit: dychryn fuost ond ni di hyd byth.
20Yna gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
21Gosot fab dŷn dy wyneb yn erbyn Sidon: a phrophwyda am deni.
22A dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: wele fi i’th erbyn Sidon, fel i’m gogonedder yn dy ganol, ac y gŵypont mai myfi yr Arglwydd: pan wnelwyf ynot farnedigaethau, ac ymsanctaiddio o honof ynot.
23Canys anfonaf arni haint, a gwaed iw heolydd: fel y barner yr archolledic oi mewn a’r cleddyf yn ei herbyn oddi amgylch: a chânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd.
24Ac ni bydd mwy i dŷ Israel o’r holl rai ai dirmygant ai hamgylch, yn spyddaden bigog, nac yn ddraenen ofidus, fel y gŵypont mai myfi yr Arglwydd.
25Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pan gasclwyf dŷ Israel o fysc y bobloedd, y rhai y gwascarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng-olwg y cenhedloedd: yna y trigant yn eu gwlâd eu hun, yr hon a roddais i’m gwâs Iacob.
26Ie trigant ynddi yn ddiogel, ac adailadant dai, a phlannant winllanoedd, a phresswyliant mewn diogelwch: pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll ai dirmygant hwy oi hamgylch, fel y gŵypont mai myfi yr Arglwydd eu Duw hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.