1Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cênwch yn llawen i Dduw Iacob.
2Cymmêrwch psalm, a moeswch dympan, telyn fwyn, a nabl.
3Ud-cênwch vdcorn ar loer newydd, ar amser nodedic, yn nydd ein vchelŵyl.
4Canys deddf hyn i Israel, defod i Dduw Iacob.
5Efe ai gosododd yn destiolaeth yn Ioseph: pan aeth efe allan o dir yr Aipht y clywais iaith ni ddeallwn.
6Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich, ei ddwylo a ymadawsant a’r crochanau.
7Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y dâran, Exod.17.7.profais di wrth ddyfroedd Meribba.Selah.
8Clyw fy mhobl, a mi a destiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf,
9Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrymma i Dduw dieithr.
10Myfi’r Arglwydd dy Dduw’r hwn a’th ddûg i fynu o dîr yr Aipht: llêda dy safn, ac mi ai llanwaf.
11Ond ni wrandawe fy mhobl ar fy llef, ac Israel nid vfuddhâe i mi.
12Yna y gollyngais hwynt yng-hyndynrwydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13Oh na wrandawe fy mhobl arnaf fi: rodie Israel yn fy ffyrdd mau fi.
14Buan y gostyngwn eu gelynnion: ac y troiwn fy llaw’n erbyn eu gwrthwyneb-wŷr.
15Caseion yr Arglwydd a gymmerent arnynt ymostwng iddo ef, ai hamser hwythau fydde’n dragywydd.
16Bwydid ef hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o’r graig i’th ddiwallwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
