1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
2Dial di tros feibion Israel ar y Madianiaid, wedi ti a gesclir at dy bobl.
3A llefarodd Moses wrth y bobl gan ddywedyd: tynnwch o honoch wyr i’r rhyfel, a byddant yn erbyn Madian, i roddi dial yr Arglwydd ar Madian.
4Mîl dros bôb llwyth, o holl lwythau Israel a anfonwch i’r rhyfel.
5A rhoddasant o filoedd Israel fil o llwyth deuddeng mil, o rai wedi eu tynnu rhyfel.
6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mîl o llwyth: hwynt a Phinees mab Eleazar yr offeiriad i’r rhyfel, a dodrefn y cyssegr, ac vdcyrn yr vdgân yn ei law.
7Yna y rhyfelasant yn erbyn Madian, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, ac a laddasant bôb gwryw.
8Brenhinoedd Madian hefyd, gyd ai lladdedigion Iosua.13.21.sef Efi, a Recem, a Zur, a Hur, a Reba, pum brenin Madian, Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy a’r cleddyf.
9Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Madian, ai plant, ac a yspeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, ai holl dda hwynt, ai holl olud hwynt.
10Eu holl ddinasoedd hefyd drwy eu trigfannau, ai holl dyrau a loscasant a thân.
11A chymmerasant yr holl yspail, a’r holl gaffaeliad o ddyn, ac o anifail.
12Ac a ddugasant at Moses, ac at Eleazar yr offeiriad, ac at gynnulleidfa meibion Israel, y carcharoriō, a’r caffaeliad, a’r yspail, wrth y gwerssyll, i rosydd Moab, y rhai am yr Iorddonen ag Iericho.
13Yna Moses ac Eleazar yr offeiriad, a holl bennaduriaid y gynnulleidfa a aethant iw cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwerssyll.
14A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteniaid y miloedd, a chapteniaid y cantoedd, y rhai a ddaethāt o silwriaeth y rhyfel.
15A dywedodd Moses wrthynt, a adawsoch chwi bôb benyw yn fyw?
16Wele Num.25.2. 2 pet 2.15.hwynt trwy air Balaam fuant i roddi ar feibion Israel gamwedd yn erbyn yr Arglwydd, yn achos Peor, a bu pla yng-hynnulleidfa yr Arglwydd.
17Am hynny Baruc.21.11.(sic.)lleddwch yn awr bôb gwryw o blentyn, a lleddwch bôb benyw a fu iddi a wnaeth a gŵr.
18A phôb plentyn o’r benwyaid y rhai ni bu iddynt a wnaethāt a gŵr, cedwch yn fyw i chwi.
19Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwerssyll saith niwrnod, pôb vn a laddodd ddyn, a Num.19.11.phôb vn a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y tryddydd dydd a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion.
20Pôb gwisc hefyd, a phôb dodrefnun croen, a phôb gwaith o geifr, a phôb llestr pren a lanhewch chwi.
21A dywedodd Eleazar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethent i’r rhyfel: dymma ddeddf y gyfraith yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
22Yn vnic yr aur, a’r arian, a’r prês, a’r haiarn, a’r plwm.
23[A] phôb dim yr hwn a ddaw i’r tân, a dynnwch drwy’r tân a glân fydd: ac etto efe a lanheuir Num.19.9.mewn dwfr naillduaeth, a’r hyn oll ni ddaw i’r tân tynnwch drwy’r dwfr
24Yna golchwch eich gwiscoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch, ac wedi hynny deuwch i’r gwerssyll.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
26Cymmer nifer yr yspail a gaed o ddyn ac o anifail, ti ac Eleazar yr offeiriad, a phennau cenedl y gynnulleidfa.
27A rhan di y caffaeliad rhwng y rhyfelwyr, y rhai a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynnulleidfa.
28A chyfot deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth: vn o pum cant o’r dynion, ac o’r eidionnau ac o’r assynnod, ac o’r defaid.
29Cymmerwch oi hanner hwynt, a dyro at Eleazar yr offeiriad yn dderchafel offrwm yr Arglwydd.
30Ac o hanner meibion Israel y cymmeri vn rhan, o dec a deugain o’r dynion o’r eidionnau, o’r assynnod, ac o’r defaid, o bôb anifail: a dot ti hwynt i’r Lefiaid y rhai ydynt yn gorchwylio tabernacl yr Arglwydd.
31A gwnaeth Moses ac Eleazar yr offeiriad megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
32A’r caffaeliad sef gweddill yr yspailyr hon a yspeiliase pobl y filwriaeth oedd, chwe chant mîl, a phymthec a thrugain o filoedd o ddefaid.
33A deuddec a thrugain mîl o eidionnau.
34Ac vn mil a thrugain o assynnod.
35A phôb enaid dyn, o fenywod, y rhai ni buase iddynt a wnaethent a gŵr ddeuddeng mîl enaid ar hugain.
36A’r hanner rhan y rhai a aethent i’r rhyfel oedd o rifedi defaid drychant mîl, a dwy ar bymthec ar hugain o filoedd, a phum cant.
37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwechant, a phumthec a thrugain.
38A’r eidionnau vn mîl ar bymthec ar hugain, ai teyrnged i’r Arglwydd deuddec a thrugain.
39A’r assynnod ddeng mîl ar hugain, a phum cant, ai teyrnged i’r Arglwydd vn a thrugain.
40A’r dynion vn mil ar bymthec, ai teyrnged i’r Arglwydd ddeuddec enaid ar hugain.
41A Moses a rodd deyrnged offrwm derchafel yr Arglwydd at Eleazar yr offairiad: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
42Ac o rann meibion Israel, yr hon a rannase Moses oddi wrth y mil-wyr,
43Sef rhan y gynnulleidfa o’r defaid oedd, drychant mil, a dwy ar bymthec ar hugain o filoedd, a phum cant.
44Ac eidionnau vn mîl ar bymthec ar hugain.
45Ac assynnod deng mîl ar hugain, a phum cant.
46Ac dynion vn mîl ar bymthec.
47A chymmerodd Moses o hanner meibion Israel vn rhann o dec a deugain o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac ai rhoddes hwynt i’r Lefiaid y rhai oeddynt yn gorchwylio tabernacl yr Arglwydd: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
48Yna y swyddogion y rhai ar filoedd y filwriaeth a ddaethant at Moses capteniaid y miloedd, a chapteniaid y cantoedd.
49A dywedasant wrth Moses, dy weision a gymmerasant nifer y gwŷr o ryfel, y rhai dan ein dwylo ni, ac nid oes ŵr yn eisie o honom.
50Am hynny yr offrymmwn offrwm i’r Arglwydd, pôb vn yr hyn a gaffo yn offeryn aur, yn fraichled, yn gadwyn, yn fodrwy, yn glustdlws, ac yn arffedog, i wneuthur iawn tros ein heneidiau ger bron yr Arglwydd.
51A chymerodd Moses ac Eleazar yr offeiriad yr aur ganddynt, yn ddodrefn gweithgar oll.
52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm derchafel, yr hwn a dderchafasant i’r Arglwydd oddi wrth gapteniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteniaid y cantoedd, yn vn mîl ar bymthec, saith gant, a dec a deugain o siclau.
53Yspeiliase y gwŷr o ryfel, bôb vn iddo ei hun.
54A chymmerodd Moses, ac Eleazar yr offeiriad yr aur gan gapteniaid y miloedd, a’r cantoedd, ac ai dugasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel, gerbron yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.