Esay 64 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LXIIII.Y Prophhwyd yn gweddio tros bechodau y bobl, ac yn dangos frynted cyfiawnder gweithredoedd dyn.

1Oh na rwygit y nefoedd, a descyn, y mynyddoedd a doddent o’th flaen di,

2Fel y llysc y tân greision, y berw ddwfr: i yspyssu dy enw i’th wrthwyneb-wŷr, yr ofne y cenhedloedd rhagot.

3Pan wnaethost ofnadwy ni ddisgwiliasom y descynnaist, mynyddoedd a ddiferasant o’th flaen.

4Ac er ioed ni chlywsant, ni dderbynnasant â chlustiau, ac ni welodd llygad Dduw, ond tydi a wna i’r neb a obeithia ynddo.

5Cynnorthwyaist y llawen, a’r hwn a wnaeth gyfiawnder, yn dy ffyrdd i’th goffânt di, wele ti a ddigiaist pan bechasom ynddynt hwy byth, yna cadwedic fuasem.

6Eithr ni oll fuom megis aflan, ac megis dilledyn o frattiau yw ein holl gyfiawnderau, a megis deilen y syrthiasom ni oll: a’n anwiredd megis gwynt a’n dûg ni ymmaith.

7Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, difeaist ni o herwydd ein anwiredd.

8Ond yn awr Arglwydd ein Tâd ni ti, nyni glai, a thithe yw ein lluni-wr ni, ie gwaith dy law ni oll.

9Na ddigia Arglwydd yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd, wele edrych attolwg dy bobl di ni oll.

10Dy sanctaidd ddinasoedd ydynt anialwch, Sion yn ddiffaethwch, a Ierusalem yn anghyfannedd.

11Tŷ ein sancteiddrwydd, a’n holl ogoniant, lle y molianne ein tadau dydi sydd yn lloscfa dân, a’n holl ddymunol sydd yn ddiffaethwch.

12A ymatteli di Arglwydd wrth y hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help