1Ni bydd i’r offeiriaid Lefiadaidd i holl lwyth Lefi ran Num.18.20. Deut.10.9. 1.Cor.9.13.nac etifeddiaeth yng-hyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd ai etifeddiaeth ef a fwyttânt hwy.
2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ym mhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth, megis ac y dywedodd efe wrthynt.
3A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl oddi wrth y rhai a aberthant aberth ai eidion, ai dafad, rhodded i’r offeiriad Num.18.18.yr yscwyddoc, a’r ddwyên, ar botten.
4Blaen-ffrwyth dy ŷd, dy wîn a’th olew, a blaen-ffrwyth cnaif dy ddefaid a roddi iddo ef.
5Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau i sefyll i wasanaethu yn enw’r Arglwydd, efe ai feibion yn dragywydd.
6A phan ddelo Lefiad o vn o’th byrth di yn holl Israel lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod yn ôl holl ddymuniad ei galon, i’r lle’r hwn a ddewiso yr Arglwydd.
7Yna gwasanaethed efe yn enw’r Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid y rhai ydynt yn sefyll yno ger bron yr Arglwydd.
8Rhan am ran a fwyttânt: heb-law’r hyn a werthe efe oddi wrth dadau.
9Pan elech di i’r tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, na ddysc wneuthur yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd hynny.
10Na chaffer ynot a wnelo iw fab, neu iw ferch, fyned drwy’r tân arferu dewiniaeth, planedydd na daroganwr, na hudol:
11Na Lefit.20.27. 1.Sam.28.7.swyn-wr swynion, nac a geisio gonsuriwr, neu frydiwr, nac a ymofynno a’r meirw.
12O herwydd ffiedd-dra yr Arglwydd pawb a’r a wnelo hyn: at o achos y ffieidd-dra hyn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu gorescyn hwynt o’th flaen di.
13Bydd berffaith gyd a’r Arglwydd dy Dduw.
14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai’r ydwyt ti yn eu gorescyn a wrandawant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: am danat ti, nid felly y canhiatâodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 Act.7.37. Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun brophwyd megis fynne: arno ef y gwrandewch.
16Yn ôl hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb yn nydd y gymmanfa gan ddywedyd: Exod.20.19.ni allaf wrando ddim y chwaneg ar lais yr Arglwydd fy Nuw, ac ni allaf weled y tân mawr hwn mwyach rhac fy marw.
17A dywedodd yr Arglwydd wrthif, da y dydywedasant.
18 Iosua.1.45.(sic.)|JHN 1:45 Act.3.21. Codaf brophwyd iddynt o fysc eu brodyr fel tithe, a rhoddaf fyng-eiriau yn ei enau ef: fel y llefaro efe wrthynt yr hyn oll a orchymynnwyf iddo.
19A phwy bynnac ni wrandawo ar fyng-eiriau y rhai a lefaro efe yn fy enw, myfi gofynnaf ganddo.
20Y prophwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw, air, yr hwn ni orchymynnais iddo lefaru, neu’r hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr: rhodder y prophwyd hwnnw i farwolaeth.
21Ac os dywedi yn dy galon, pa fodd yr adwaenō y gair, yr hwn ni lefarodd yr Arglwydd?
22Yr hyn a lefaro y prophwyd hwnnw yn enw’r Arglwydd a’r gair heb fob, ac heb ddyfod, hwnnw yw’r gair yr hwn ni lefarodd yr Arglwydd: y prophwyd ai llefarodd mewn rhyfyg, nac ofna ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.