Psalmau 139 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxxxix.At y pen-cerdd Psalm Dafydd.

1 Arglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi.

2Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: dealli fy meddwl ym mhell o’r blaen.

3Amgylchynaist fy llwybr a’m gorweddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.

4Canys nid air ar fy nhafod, ond wele Arglwydd ti ai gŵyddost oll.

5Llyniaist fi yn ôl, ac ym mlaen: a gosodaist dy law arnaf.

6[Dymma] ŵybodaeth ry ddirgel i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7I ba le’r âf oddi wrth dy yspryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?

8Os dringaf i’r nefoedd yno y di: os gorweddaf yn vffern wele di.

9Yno pe cymmerwn adenydd y wawr y nos yn oleuni o’m hamgylch.

12Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: vn ffunyd tywyllwch a goleuni

13Canys ti a feddiannaist fy arennau, toaist fi yng-hroth fy mam.

14Clodforaf dydi canys ofnadwy, a rhyfedd i’m gwnaed: rhyfedd dy weithredoedd, a’m henaid a ŵyr yn dda.

15Ni chuddiwyd fy escyrn oddi wrthit, er fyng-wneuthur yn ddirgel, a’m llunio yn isselder yn ddaiar.

16Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd hwynt oll y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.

17Am hynny mor werth-fawr yw dy gynghorau gennif ô Dduw? mor fawr yw eu swm hwynt?

18[Pe] cyfrifwn hwynt, amlach fyddent na’r tywod: ddeffroiwyf, gyd â thi’r yn wastad.

19O Dduw na leddit yr annuwiol, a’r gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthif.

20Y rhai a ddywedant scelerder am danat, dy elynnion a gymmerasant yn ofer.

21Onid câs gennif ô Arglwydd dy gaseion di? a ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i’th erbyn?

22A châs cyflawn y caseais hwynt: byddent i mi yn elynnion.

23Chwilia fi ô Dduw, a gŵybydd fyng-halon: prawf fi, a gŵybydd fy meddyliau.

24A gwêl, a oes ffordd annuwiol gennif: a thywys fi yn ffordd tragywyddoldeb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help