1 Ac yr oedd yr holl Publicanod a’r pechaduriaid yn dyfod atto ef, i wrando arno.
2A’r Pharisæaid, a’r scrifennyddion, a wrwgnachasant gan ddywedyd, y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gŷd â hwynt.
3Yna yr adroddodd efe y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd:
4 Mar.18.12.(sic.) Pa vn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll vn o honynt, oni âd yr am yn vn pum vgain yn yr anialwch, ac a gerdd ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
5Ac wedi iddo ei chael, efe a’i rhydd hi ar ei yscwyddau trwy lawenydd.
6A phan ddel adref, efe a eilw yng-hŷd ei gyfeillion a’i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, llawenhewch gŷd â mi, canys cefais fy nafad a yr hon a gollase.
7Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nêf am vn pechadur edifeiriol, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8Neu pa wraig ac iddi ddêc o ddracmonau os cyll hi vn ddracmon, ni oleu ganwyll, ac yscubo’r tŷ, a chwilio yn fanwl hyd onis caffo, a’th dâd a laddodd y llo pascedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach adref.
28Yna y digiodd efe, ac nid ae i mewn: am hynny y daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd ag ef.
29Ac yntef a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, wele, er ys hyn o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i vn amser dy orchymmyn: ac er hynny ni roddaist i mi erioed fynn i wneuthur yn llawen gŷd â’m cyfeillion.
30Eithr pan ddaeth dy fâb hwn yr hwn a dreuliodd dy dda di gŷd â phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pascedig.
31Ac efe a ddywedodd wrtho: fy mâb, yr ydwyt ti yn wastadol gŷd â mi, a hynn a feddaf sydd eiddot ti.
32Rhaid oedd lawenychu a gorfoleddu o blegit dy frawd hwn a fu farw: ac a aeth yn fyw a fu golledig, ac a gafwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
