Psalmau 41 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xlj.Beatus qui intelligit.Psalm Dafydd at y pen-cerdd.

1 Gwyn ei fydd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd ai gwared ef yn amser adfyd.

2Yr Arglwydd ai ceidw, ac ai bywhâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddod tithe ef wrth ewyllys ei elynnion.

3Yr Arglwydd ai nertha ef ar ei glaf-wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i’th erbyn.

5Fyng-elynnion a lefarent ddrwg am danaf pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6Ac os daw i’m hedrych efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl ynddo anwiredd: efe a aiff allan, traetha.

7Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i’m herbyn: a dychymmygant ddrwg i mi.

8Aflwydd a dywalltwyd arno ef: a’r hwn sydd yn gorwedd ni chyfyd mwy.

9Hefyd y gŵr annwylaf gennif, yr hwn yr ymddyriedais iddo, a fwyttaodd fy mâra, a dderchafodd sodl i’m herbyn.

10Eithr ti Arglwydd trugarhâ wrthif, a chyfot fi, fel y talwyf iddynt.

11Wrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff fyng-elyn orfolaethu i’m herbyn.

12Ond am danaf fi, yn fy mherffeithrwydd i’m cynheli, ac i’m gossodi ger dy fron yn dragywydd.

13Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, Amen, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help